Llofrudd Peter Falconio 'heb ddatgelu lleoliad ei gorff cyn iddo farw'

Peter Falconio

Ni wnaeth llofrudd dyn o Brydain oedd yn teithio yn Awstralia ddatgelu lleoliad gweddillion ei gorff cyn iddo farw, yn ôl yr heddlu.

Daeth cadarnhad fod Bradley John Murdoch wedi marw ddydd Mawrth.

Fe gafodd ei ddyfarnu'n euog yn 2005 o lofruddio Peter Falconio, 28 mewn ardal anghysbell yng ngogledd Awstralia ar 14 Gorffennaf 2001.

Cafodd hefyd ei ddyfarnu'n euog o ymosod ar gariad Mr Falconio, Joanne Lees.

Roedd Mr Falconio a Ms Lees yn dod o Sir Efrog, ac yn teithio mewn fan ar draws Awstralia cyn yr ymosodiad. 

Fe gafodd Murdoch ei ddedfrydu i garchar am oes heb barôl am o leiaf 28 mlynedd.

Yn 2019 fe wnaeth o dderbyn diagnosis terfynol o ganser y gwddf ac fe gafodd ei symud i ofal lliniarol fis diwethaf, yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau lleol.

Mae cadarnhad bellach ei fod wedi marw mewn ysbyty yn Alice Springs. 

Dywedodd Heddlu’r Diriogaeth Ogleddol nad oedd Murdoch wedi darparu unrhyw wybodaeth newydd am leoliad corff Mr Falconio cyn ei farwolaeth.

Mewn datganiad, dywedodd y llu: "Mae Heddlu'r Diriogaeth Ogleddol yn cydnabod marwolaeth Bradley John Murdoch, y dyn oedd yn euog o lofruddio'r dyn o Brydain, Peter Falconio, yn 2001. 

"Mae'n hynod o siomedig fod Murdoch, hyd y gwyddom ni, wedi marw heb ddatgelu lleoliad gweddillion Peter Falconio. 

“Mae ein meddyliau gyda'r teulu Falconio yn y Deyrnas Unedig, sydd yn parhau mewn galar.”

Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn benderfynol o "ddatrys y darn olaf o'r ymchwiliad yma", gan gynnig gwobr ariannol i unrhyw un sydd â gwybodaeth a all arwain at ddarganfod gweddillion Peter Falconio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.