Ymchwiliad i gyfarfod gweinidogion â threfnwyr gŵyl

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi lansio ymchwiliad ar ôl adroddiadau fod gweinidogion o lywodraeth Cymru wedi mynychu “digwyddiad cymdeithasol” gyda threfnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mhowys.
Daw hyn yn dilyn galw am "atebion" ym Mhowys am ddyfodol fferm leol wedi i Lywodraeth Cymru ei phrynu.
Daw'r ymateb yn dilyn adroddiadau'r ym mis Mai bod y llywodraeth wedi penodi trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd i redeg y fferm, sydd wedi arwain at gryn ddyfalu gan y gymuned a fydd yr ŵyl yn symud i Fferm Gileston.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar amaethyddiaeth Mabon ap Gwynfor fod hyn yn “bryder mawr.”
Dywedodd: "Gallai hyn fod yn doriad difrifol o'r Côd Gweinidogol, sy'n nodi ‘na ddylai unrhyw Weinidog dderbyn rhoddion, lletygarwch oddi wrth unrhyw un mewn modd a allai ei roi o dan rwymedigaeth, neu roi’r argraff ei fod o dan rwymedigaeth."
Darllenwch fwy yma.