Rhai o brif gyflwynwyr Radio Cymru i adael yr orsaf
Bydd rhai o brif gyflwynwyr Radio Cymru yn gadael yr orsaf.
Mae Newyddion S4C ar ddeall y bydd rhaglenni nos Geraint Lloyd, Penwythnos Geth a Ger a rhaglen Stiwdio yn dod i ben.
Daw hyn ychydig o ddyddiau wedi i Bennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd, ddweud fod y gorfforaeth yn wynebu “dewisiadau anodd, yn enwedig o ran y gwasanaethau llinol”.
Daeth cyhoeddiad yr wythnos hon hefyd y byddai oriau Radio Cymru 2 yn cael eu hymestyn o 15 awr yr wythnos i fwy na 60 awr.
Yn siarad ar Faes yr Eisteddfod ddydd Sadwrn, dywedodd Geraint Lloyd wrth Newyddion S4C fod y newyddion "wedi dod fel dipyn o sioc iddo."
Fe aeth ymlaen i ychwanegu ei fod yn "siomedig iawn gyda'r penderfyniad" ac y bydd yn "colli ei slot nosweithiol gan ei fod wedi datblygu perthynas dda iawn gyda'i wrandawyr."
Dywedodd hefyd ei fod yn siomedig bod y newydd hwn wedi dod yn ystod yr un wythnos a chyhoeddodd BBC Cymru eu bod yn ymestyn eu gwasanaeth ar BBC Radio Cymru 2.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru "o bryd i’w gilydd mae pob gorsaf radio yn gwneud newidiadau i ran o’r amserlen ac o fis Hydref ymlaen bydd elfennau o amserlen hwyrol Radio Cymru yn newid. Bydd mwy o fanylion am yr amserlen ar ei newydd wedd yn cael ei gyhoeddi maes o law.
"Mae’n diolch ni’n fawr i Geth a Ger, Nia Roberts a chriw Stiwdio a Geraint Lloyd am eu cwmnïaeth gyda’r nos dros y blynyddoedd."
Llun: BBC Radio Cymru