Trydydd aelod o deulu o Gaerdydd yn marw yn Bangladesh
Mae trydydd aelod o deulu o Gaerdydd wedi marw yn Bangladesh.
Bu farw Samira Islam, 20 oed, ddydd Gwener ar ôl cael ei drganfod yn anymwybodol ar 26 Gorffennaf.
Cafodd ei chorff ei ryddhau i'w hewythr ddydd Sadwrn i'w chladdu ddydd Sul.
Bu farw Rafiqul Islam, 51, a’i fab Mahiqul Islam, 16, ar ôl cael eu darganfod yn anymwybodol yn ninas Sylhet fis diwethaf.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu gwenwyno gan nwy.
Roedd gwraig Mr Islam, Husnara, a phlentyn arall Sadiqul, wedi bod yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.
Fe gafodd Husnara a Sadiqul eu rhyddhau o'r ysbyty ddydd Mercher.
Y gred yw bod generadur trydan diffygiol wedi cael ei ddefnyddio yn yr eiddo lle yr oedden nhw'n aros yn sgil toriad trydan ar noson y drychineb.
Llun: Wikimedia Commons