'Pleser mawr' i ganu yn yr Eisteddfod medd soprano o Wcráin
'Pleser mawr' i ganu yn yr Eisteddfod medd soprano o Wcráin
Fe wnaeth soprano o Wcráin berfformio yn ystod ymryson y beirdd yn y Pafiliwn ddydd Gwener.
Dywedodd Khrystyna Makar ei bod hi'n hollbwysig cael cynrychiolaeth o Wcráin yn yr Eisteddfod eleni.
"Mae hi'n bwysig iawn i mi a fy ngwlad. Dwi'n teimlo fel bod pawb yn y byd angen gwybod am ddiwylliant Wcráin," meddai.
Dyma'r tro cyntaf i Khrystyna ymweld â'r Eisteddfod a dywedodd bod y Brifwyl yn ganolog i ddiwylliant a'r iaith Gymraeg.
"Mae'n le hyfryd ac roedd yn bleser mawr i mi i ganu i chi heddiw.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig iawn ar gyfer diwylliant Cymreig a'r bobl yma yng Nghymru a dwi'n hapus iawn i fod yma."
Ychydig fisoedd yn ôl, fe wnaeth Khrystyna a'i dau fab ifanc ffoi o Wcráin yn sgil y rhyfel yn y wlad ac fe symudodd y teulu i un o wersylloedd yr Urdd.
"Mae yna bobl dda o fy nghwmpas i ac mae nhw yn fy helpu i a dwi a fy meibion yn ddiogel rwan."
Er y croeso cynnes a gafodd y teulu yng Nghymru yn gyffredinol, roedd gadael eu gwlad frodorol yn anodd iawn, meddai.
"Pan wnaethom ni adael Wcráin, roedd yn ofnus iawn oherwydd pan nes i gyrraedd Cymru, roedd yn braf gweld pobl glên a dwi'n ddiolchgar iawn am hynny.
"Mae gen i hiraeth am Wcráin ac am fy nheulu, ond fy ngham nesaf i ydy chwilio am noddwr a swydd a lle nesaf i fyw gyda fy mhlant ."
Dywedodd Khrystyna ei bod hi'n byw mewn gobaith y bydd y rhyfel yn gorffen yn fuan.
"Dwi'n gobeithio y bydd Wcráin yn ennill a dwi'n byw mewn gobaith ac mae gen i ffydd, mae hi'n bwysig iawn i gael ffydd."