Perygl o ffrwydrad yn dilyn tân mewn storfa hen arfau yn Berlin

Mae perygl y gall ffrwydrad ddigwydd o ganlyniad i dân mewn storfa hen arfau yn Berlin medd awdurdodau'r ddinas.
Dechreuodd y tân yn y storfa ar 4 Awst, gan ledaenu dros ardal 15,000 metr sgwâr.
Nid yw'r gwasanaeth tân yn gallu brwydro'r fflamau ar hyn o bryd gan fod perygl y gallai bomiau o'r Ail Ryfel Byd ffrwydro yno.
Darllenwch fwy yma.
Llun: @satellitevu/Twitter