Newyddion S4C

Llŷr Gwyn Lewis yn ennill Cadair Eisteddfod Ceredigion

LGL

Llŷr Gwyn Lewis sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Ceredigion eleni - a hynny mewn cystadleuaeth lle'r oedd y safon yn "rhyfeddol o uchel" medd y beirniaid.

Y beirniaid eleni oedd Idris Reynolds, Emyr Lewis a Twm Morys, a'r testun oedd 'Traeth'.

Mae Llŷr Gwyn Lewis yn byw yng Nghaerdydd ac fe’i magwyd yng Nghaernarfon. Cafodd ei addysg yn Ysgol y Gelli ac Ysgol Syr Hugh Owen, a dysgodd lawer hefyd yn Ysgol Glanaethwy, cyn mynd i astudio yng Nghaerdydd a Rhydychen.

Ar ôl cyfnod fel darlithydd yn Abertawe a Chaerdydd, mae ar fin dod i ddiwedd cyfnod hapus dros ben yn olygydd adnoddau gyda CBAC.

Image
IR
Idris Reynolds yn traddodi'r feirniadaeth i'r gynulleidfa yn y pafiliwn

Dywedodd Idris Reynolds wrth draddodi ar ran ei gyd-feirniaid o lwyfan y pafiliwn: “Rwy’n teimlo fod y safon gyffredinol drwyddi draw yn dipyn uwch na’r norm. Byddai o leiaf ddwy ran o dair ohonynt yn cipio cadeiriau yn ein Heisteddfodau Taleithiol.  Ac ar ben hynny, roedd y safon ar y brig yn rhyfeddol o uchel. Ar ôl chwynnu go eger roedd pump ar ôl ar y bwrdd i’w hystyried o ddifrif am Gadair Ceredigion ac fe allem dan amgylchiadau gwahanol fod wedi cadeirio unryw un o’r pump gyda chydwybod glir."

O ran yr awdl fuddugol, dywedodd: “Hanes tad, mam a chrwt dwyflwydd yn treulio Gŵyl y Banc ar draeth Llangrannog sydd yma a hynny ar ffurf casgliad o gerddi - 13 o delynegion unigol ac yn ffitio mewn i’r cyfanwaith. Mae’r cyntaf yn ymwneud â’r cyrraedd, yr olaf gyda’r gadael tra bod y gweddill yn trin gweithgareddau arferol gwyliau glan môr megis hel cregyn, codi cestyll tywod, prynu hufen ia ac ati.

"Ond mae yma lawer mwy na hynny. Mae’r bardd yn ymwybodol iawn o broblemau mawr yr oes - y newid hinsawdd, y gwastraff plastig, effeithiau niweidiol twristiaeth ar hyd y glannau a dirywiad y Gymraeg yn ei chadarnleoedd - maent i gyd yma o dan y tywod ynghyd â gofidiau mwy personol fel y broses o fynd yn hŷn, cyfrifoldebau penteulu a’r llwyth o ebyst sy’n disgwyl atebion. Ac er taw traeth cyfyng yw traeth Llangrannog nid oes yma ddim sathru yn yr un man."

Cystadleuaeth 'ardderchog'

Ychwanegodd: "Ceir yma hefyd fôr o emosiynau o ddicter i dynerwch, o sinigiaeth i anwyldeb, ac mae’n hollol barod i chwerthin ar ben ei ymdrechion ei hunan. Ac o dan y cwbwl mae yna ymwybyddiaeth o pa mor ddi-rym yw dyn, fel y Caniwt gwreiddiol, i atal y llanw tragwyddol.

"Yn bersonol rwyf i yn ei roi ar y blaen oherwydd ei ddawn delynegol ac hefyd am iddo yn anad neb fynd i’r afael â’r testun gosodedig. Mae Emyr Lewis hefyd yn ei roi ar y blaen, o drwch blewyn, ac rwy’n dyfynnu ‘am ei gynildeb, treiddgarwch ac anwyldeb agos atoch ac am adrodd profiad cymhleth a digri bod yn rhiant o Gymro ar draeth Llangrannog’. Felly, o ddwy bleidlais i un, mewn cystadleuaeth ardderchog, caderier Cnwt Gwirion.”

Image
RI

Mae Ceredigion eisoes yn agos at galon Llŷr Gwyn Lewis, gan iddo ennill cadair yr Urdd am y tro cyntaf yn Llanerchaeron yn 2010 cyn ennill drachefn yn Abertawe yn 2011. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth a dwy gyfrol ryddiaith.

Fe hoffai Llŷr ddiolch yn enwedig i Dei Fôn Williams a Llion Jones am roi seiliau mor gadarn iddo flynyddoedd yn ôl wrth ddysgu cynghaneddu. Yn bennaf oll, mae ei ddiolch i’w deulu ac yn enwedig ei rieni, ei nain a’i daid, ei frawd a’i chwaer, ac i Lowri, Math a Gwern am bopeth.

Rees Thomas, Bow Street, sydd wedi cynllunio a chreu’r Gadair eleni. Noddir y Gadair gan Gylch Cinio Dynion Aberystwyth, a rhoddir y wobr ariannol er cof annwyl am Eluned ac W Ambrose Bebb, gan eu plant a’u hwyrion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.