
Arestio bechgyn 14 a 15 oed ar ôl tân mewn capel
Mae’r heddlu wedi arestio bechgyn 14 a 15 oed mewn cysylltiad â chychwyn tân mewn capel ym Mhort Talbot.
Digwyddodd y tân yng Nghapel Methodistiaid Calfinaidd Saesneg Bethany ar Heol yr Orsaf yng nghanol y dref brynhawn ddydd Iau.
Cafodd bachgen 14 oed o Draethmelyn a bachgen 15 oed o Fryn eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol.
Mae’r ymchwiliad yn parhau i fynd rhagddo.



Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Port Talbot, Treforys a Chastell-nedd eu galw i’r capel am 18.49 nos Iau.
Cafodd y tân ei ddiffodd yn oriau mân ddydd Gwener 25 Ebrill.
Dywedodd y gwasanaeth tân bod yr adeilad wedi'i ddifrodi'n ddifrifol.