Abertawe: Gorchymyn ysbyty i fam wedi iddi ladd ei mab chwech oed
Bydd mam 42 oed yn cael ei chadw yn yr ysbyty am gyfnod amhenodol wedi iddi gyfaddef iddi ladd ei mab chwech oed.
Fe wnaeth Karolina Zurawska, 42 oed, o Gendros bledio’n euog i ddynladdiad ei mab, Alexander Zurawski, ac ymgais i lofruddio ei thad, Krzysztof Siwy, ym mis Awst y llynedd.
Plediodd ar sail cyfrifoldeb lleihaol (diminished responsibility), a dderbyniwyd gan yr erlyniad yn seiliedig ar adroddiadau gan seiciatryddion fforensig.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Zurawska wedi bod yn “fam dda” i’w mab, a oedd yn gwella o diwmor ar yr ymennydd a’i gadawodd yn rhannol ddall ac angen ffon i gerdded, cyn yr ymosodiad.
Wrth ei dedfrydu ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC Zurawska bod perthynas y fam a'r plentyn yn un "cynnes a chariadus ar y ddwy ochr. Roeddech chi’n addoli eich gilydd, ac roedd e’n ymddiried ynoch chi".
“Fe wnaethoch chi ymroi i fod yn ofalwr iddo, i roi popeth oedd ei angen iddo a gwneud hynny’n effeithiol fel rhiant sengl am y rhan fwyaf o'i fywyd.
“Rhaid bod y straen arnoch chi wedi bod yn enfawr.”
Dywedodd na allai neb fod wedi rhagweld beth fyddai’n digwydd cyn y diwrnod hwnnw.
'Torri eu calonnau'
Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Matthew Davies: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig a thrallodus iawn sydd wedi cael effaith ddofn ar y gymuned gyfan yn Gendros, yn ogystal â’r staff a’r disgyblion yn ysgol Alexsander.
“Roedden nhw i gyd wedi torri eu calonnau o glywed am farwolaeth Alexsander.
“Roedd y gymuned leol yn Gendros yn rhagorol o ran eu cefnogaeth i’n hymchwiliad yn ystod cyfnod anodd iawn.
“Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu a ffrindiau Alexsander.”
‘Bachgen hynod annwyl a phoblogaidd’
Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Heddlu De Cymru yn dilyn ei farwolaeth, disgrifiodd teulu Alexander fel “plentyn caredig iawn”.
“Roedd wrth ei fodd yn chwarae gyda’i chwaer fach ac yn chwarae gyda’i gi, Daisy.
“Roedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg.
“Roedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau.
“Roedd Alexander bob amser yn barod i helpu, bob amser yn awyddus i helpu gyda choginio a glanhau."
Ychwanegodd y deyrnged: “Roedd Alexander yn siarad Saesneg a Phwyleg a byddai’n aml yn cywiro ei rieni gyda’u Saesneg os oedden nhw’n cael geiriau’n anghywir.
“Roedd yn anhygoel.”