Newyddion S4C

Undeb Rygbi Cymru yn penodi Dave Reddin yn Gyfarwyddwr Rygbi

Dave Reddin

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi penodi Dave Reddin yn Gyfarwyddwr Rygbi Proffesiynol.

Cafodd Mr Reddin ei benodi i'r swydd ddydd Gwener, bedwar mis ers i Nigel Walker adael ei swydd fel Cyfarwyddwr Rygbi Gweithredol Cymru.

“Rydw i wrth fy modd ac yn teimlo’n anrhydeddus o gael ymuno â rygbi Cymru ar adeg mor allweddol yn hanes cyfoethog y gêm yma,” meddai Reddin. 

“Dyma un o’r swyddi mwyaf yn y byd rygbi oherwydd yr angerdd a’r ystyr sydd i’r gêm yng Nghymru. 

“Mae heriau amlwg ond rydw i wedi ysbrydoli gan y potensial gwirioneddol sydd yn y weledigaeth a’r strategaeth newydd y mae [y prif withredwr] Abi Tierney. a’i thîm wedi’u cyfleu."

Yn y gorffennol mae Dave Reddin wedi gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr, tîm rygbi dynion Lloegr a Team GB.

Roedd yn arbenigwr ffitrwydd i dîm rygbi dynion Lloegr rhwng 1997 a 2006, cyfnod lle enillodd y wlad Gwpan Rygbi'r Byd.

Yn ystod Gemau Olympaidd 2012 roedd yn gyfarwyddwr gwasanaethau perfformiad Team GB, cyn gadael i ymuno â Chymdeithas Bêl-droed Lloegr.

Yn y swydd honno roedd yn gyfrifol am feddyginiaethau perfformiad, dadansoddiad, perfformiad corfforol a datblygiad.

Roedd wedi gweithio gyda'r garfan yn ystod Cwpan y Byd Rwsia yn 2018.

Un o'i brif gyfrifoldebau gyda URC fydd ceisio denu prif hyfforddwr newydd i'r tîm cenedlaethol yn dilyn ymadawiad Warren Gatland yn ystod y Chwe Gwlad.

Colli pob un gêm oedd hanes Cymru yn y Chwe Gwlad eleni, gan olygu nad ydyn nhw wedi ennill 17 o'u gemau rhyngwladol diwethaf.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.