Dynes yn osgoi carchar ar ôl lladd beiciwr o ogledd Cymru mewn gwrthdrawiad
Mae dynes a laddodd beiciwr o Sir y Fflint mewn gwrthdrawiad ar ôl iddi gael gwybod wrth y llyw fod ei thad yn marw wedi osgoi dedfryd o garchar.
Clywodd Llys y Goron Caer ddydd Gwener fod Lucinda Collins ar alwad ffôn 'hands-free' gyda’i mam tra'n gyrru ei char BMW.
Roedd y deintydd 40 oed o ardal Upton yng Nghaer yn mynd â’i merch dair oed i chwarae gyda'i ffrind.
Ond clywodd y llys ei bod wedi methu arwyddion i stopio wrth iddi agosáu at gyffordd, gan nad oedd yn canolbwyntio yn sgil y newyddion drwg.
A hithau'n teithio ar gyflymder o tua 40mya, ni wnaeth Collins lwyddo i frecio ac fe darodd gar BMW arall.
Fe wthiodd y car hwnnw i mewn i feiciwr 75 oed a fu farw yn y fan a'r lle.
Fe gafodd Roger Dutton o Dreffynnon ei ladd yn y gwrthdrawiad ar gyffordd ar Ffordd Brown Heath rhwng pentrefi Waverton a Christleton yn Sir Gaer.
Mewn gwrandawiad blaenorol, fe wnaeth Collins gyfaddef iddi achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ym mis Awst 2022.
Dydd Gwener, cafodd ddedfryd o ddwy flynedd o garchar wedi'i gohirio am ddwy flynedd.
Cafodd hefyd ei gwahardd rhag gyrru am bum mlynedd, 250 awr o wasanaeth cymunedol a £2,260 o ddirwy.
Dywedodd y Barnwr Everett na fyddai'n ei hanfon i'r carchar gan nad oedd hi wedi troseddu o'r blaen, ac nad oedd hi'n beryglus i'r cyhoedd.
'Golau ein bywydau'
Clywodd y llys fod Mr Dutton, cyn-adeiladwr, yn ddyn "rhyfeddol" a oedd yn "ffynnu" ar ôl ei ymddeoliad.
Mewn datganiad, dywedodd ei weddw, Dale Dutton, eu bod wedi priodi'n 17 oed a'u bod wythnosau i ffwrdd o ddathlu 46 mlynedd gyda'i gilydd.
"Mae'r gwacter mor fawr, ni fyddwn byth yn ei weld yn gwenu na'n ei glywed yn chwerthin eto," meddai.
"Bydd y golled gyda ni am byth. Ef oedd popeth i mi.
"Rwyf wedi torri. Ef oedd golau ein bywydau."