Dynes 22 oed o Sir Conwy yn rhedeg Marathon Llundain er cof am ei brawd
Dynes 22 oed o Sir Conwy yn rhedeg Marathon Llundain er cof am ei brawd
Fe fydd dynes ifanc o Sir Conwy yn rhedeg Marathon Llundain ddydd Sul er cof am ei brawd fu farw yn sydyn yn 21 oed dair blynedd yn ôl.
Bydd Elan Gwyn o bentref Eglwysbach yn rhedeg y marathon er cof am ei brawd, Dafydd, a fu farw o gyflwr ar y galon nad oedd wedi derbyn diagnosis.
Bydd Elan yn codi arian tuag at elusen Cardiac Risk in the Young (CRY).
Bwriad yr elusen ydi i gynnig cymorth i deuluoedd person ifanc sydd wedi marw yn sydyn o gyflwr cardiaidd ac i geisio atal pobl ifanc rhag marw o gyflyrau cardiaidd drwy gael mynediad at sgrînio.
Roedd yr elusen yn gymorth mawr i Elan wedi marwolaeth ei brawd.
"Oedd gw'bod bod 'na bobl eraill 'di bod drwy be' oeddan ni wedi bod drwy a bod yr elusen hefyd yn trefnu sgrînio a testio i bobl ifanc, nath o rili helpu fi ar y pryd - jyst gw'bod bod 'na gefnogaeth ar gael i bobl," meddai wrth Newyddion S4C.
'Gwneud rhywbeth er cof am Dafydd'
Mae 12 person ifanc, sef unrhyw un o dan 35 oed, yn colli eu bywyd bob wythnos yn y DU yn sgil cyflwr ar y galon sydd heb dderbyn diagnosis, yn ôl elusen CRY.
Dywedodd Elan: "O’n i jest yn teimlo bod wan yn amser iawn i neud rhywbeth er cof am Dafydd a rhywbeth o’n i wedi bod isio ei neud am mor hir rili felly dyna pam.
"Pan nathon ni golli Dafydd, nathon ni golli fo yn hollol annisgwyl ag oedd genna fo broblem efo’i galon oeddan ni ddim yn gwybod am, so i ddysgu bod gymaint o bobl ifanc yn mynd drwy hynna, bod gymaint o bobl ifanc yn colli bywyd nhw yn y ffordd yna, oedd o’n rili pwysig i fi godi ymwybyddiaeth am yr elusen."
Mae Elan hefyd yn annog pobl ifanc i gael prawf sgrînio'r galon os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon am eu hiechyd.
"Dwi hefyd isio codi ymwybyddiaeth a gadael i bobl wybod os ydyn nhw yn ifanc, peidiwch â chymryd yn ganiataol bo’ chi’n ifanc ac yn iach, ma’ ‘na testio ar gael os oes gennych chi unrhyw concerns, mae o ar gael a bod o yna basically," meddai.
'Go for it'
Mae Elan yn byw gyda diabetes Math 1 ers yn blentyn, ond mae hi wedi bod yn benderfynol i sicrhau nad yw'r cyflwr yn ei hatal rhag gwneud unrhyw beth.
"Fel nes i fynd bach yn hŷn, o’n i’n ffeindio cael balans rhwng neud exercise a balansio blood sugars fi yn rili anodd ond obviously wedyn, nathon ni golli Dafydd, ag oedd gweld Dafydd yn colli ei fywyd mor ifanc, nath o rili neud i fi sylwi ma’ rhaid ti jyst neud be ti isio ag even os dio’n heriol ag yn anodd, jyst go for it rili," meddai.
"Dwi 'di bod yn diabetic ers o'n i'n fach a mae o wedi rhoi fatha y mentality i fi bo' fi yn gallu gwneud hyn a hefyd bod rhaid fi neud hyn efo lot o betha."
Ychwanegodd Elan nad yw'n teimlo fod yna ddigon o ymwybyddiaeth o farwolaethau cardiaidd ifanc.
"O'n i'n un o'r bobl nad oedd yn gw'bod amdana fo, a dwi'n meddwl fod pawb ella yn cymryd o'n ganiataol bod o ddim yn mynd i ddigwydd iddyn nhw. Yn y mwyafrif o achosion, dydy o ddim ond jyst fod pobl yn ymwybodol fod pobl ifanc yn gallu colli eu bywyd nhw yn y ffordd yna."
'Sgrînio mor bwysig'
Mae elusen Cardiac Risk in the Young yn sgrînio o gwmpas 30,000 o bobl ifanc ar draws y DU y flwyddyn rhwng 14 a 35 oed.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Dr Steven Cox wrth Newyddion S4C: "Mae 80% o farwolaethau sydyn ifanc yn digwydd heb unrhyw symptomau o flaen llaw o gwbl, a dyna pam mae sgrînio mor bwysig.
"Ar y lefel uchaf mewn chwaraeon, byddwch chi'n cael eich sgrînio yn rheolaidd fwy neu lai. Ond mae CRY eisiau i hyn fod yn llawer ehangach nag athletwyr elît oherwydd mae'r mwyafrif o farwolaethau yn digwydd ar lefel llawr gwlad neu yn y gymuned leol, yn hytrach nag ymysg athletwyr elît."
Ychwangeodd Dr Cox fod yr elusen yn cynnig cymorth a chyngor i bobl os ydyn nhw yn derbyn diagnosis o gyflwr cardiaidd ar ôl cael eu sgrînio.
"Fe fydd un ymhob 300 o bobl yr ydym ni'n eu sgrînio yn cael eu hadnabod gyda chyflwr cardiaidd â'r potensial i fygwth bywyd ac fe fydd y cyflwr yna yn elwa o gyngor ffordd o fyw neu feddyginiaeth neu osgoi meddyginiaeth penodol efallai," meddai.
"Mae'n neges bwysig iawn i bobl ifanc: Yndi, mae o'n anghyffredin ond rydym ni wastad yn darganfod cyflyrau mewn pobl sy'n gallu cael eu trin, eu rheoli a lleihau'r risg yn sylweddol o gael ataliad ar y galon unwaith y mae'r cyflwr wedi cael ei adnabod."