Neil Foden: Disgwyl cyhoeddi adroddiad gwersi i'w dysgu
Mae disgwyl i adroddiad ynglŷn â pha wersi sydd i'w dysgu yn sgil troseddau'r pedoffeil a'r cyn brifathro Neil Foden gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Y gred oedd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi ond fe ddywedodd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru y byddai yna oedi llai na 24 awr cyn yr oedd disgwyl ei gyhoeddi.
Mewn datganiad ar y pryd, fe ddywedodd y bwrdd bod yr oedi wedi bod yn “benderfyniad anodd” ond wedi ei wneud er mwyn “ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth”.
Cafodd Neil Foden ei ganfod yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin pedair merch yn rhywiol rhwng 2019 a 2023. Cafodd ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024.
Roedd yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd fel pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac wedi bod yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Wrth ddedfrydu Foden fe ddywedodd y Barnwr Rhys Rowlands ei fod yn gymeriad "gormesol a bombastig" oedd gyda "chyfrinach warthus - obsesiwn rhywiol gyda merched ifanc bregus yn eu harddegau".
Achos y pedoffeil Neil Foden: Amserlen o'r prif ddigwyddiadau.
Wedi’r achos troseddol ddod i ben, comisiynwyd Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Dechreuodd y broses ym mis Awst 2024 ac mae’n cael ei gadeirio gan Jan Pickles OBE.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd fis diwethaf ei bod yn rhagweld y bydd yr awdurdod yn gyfrifol am “nifer” o fethiannau i atal y pedoffeil Neil Foden.
Wrth siarad mewn cyfarfod o'r cyngor dywedodd Nia Jeffreys: "Rydw i'n rhagweld y bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at fethiannau i atal y pedoffeil, Neil Foden, a bod nifer o’r rhain yn gyfrifoldeb ar y Cyngor hwn."
Bydd canfyddiadau'r adolygiad yn cael eu rhannu ar wefan, platfformau digidol a rhaglen teledu Newyddion S4C yn ystod y dydd.