Llifogydd ac oedi ar y ffyrdd wedi tywydd garw
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law a fydd mewn grym hyd at ddydd Mercher.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 12.00 ddydd Mawrth a 06.00 fore Mercher.
Ac mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y dylai pobl yn ne Cymru ddisgwyl oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn sgil y tywydd garw yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae posibilrwydd y bydd llifogydd ar y ffyrdd yn dilyn cyfnodau o hyd at 50mm o law.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi dau rybudd llifogydd ar gyfer Afonydd Colwyn a Glaslyn ym Meddgelert, Afon Cothi mewn ardaloedd isel ger Nantgaredig, ac Afon Tywi rhwng Llandeilo ac Abergwili.
Roedd 23 rhybudd i fod yn barod am lifogydd yn ogystal.
Mae'r rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd yn y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Caerfyrddin
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
