Galw ar Undeb Rygbi Cymru i ddangos 'mwy o barch' at Rygbi Byddar Cymru
Galw ar Undeb Rygbi Cymru i ddangos 'mwy o barch' at Rygbi Byddar Cymru
Mae cyn-gapten rygbi byddar Cymru yn galw am fwy o gefnogaeth gan Undeb Rygbi Cymru, gan ddadlau bod y tîm angen "mwy o barch."
Wrth feddwl am lwyddiannau mwyaf Cymru ar y cae rygbi, efallai mai timau'r chwedegau a'r saithdegau sy'n neidio i'r cof a'r pedair camp lawn o fewn yr ugain mlynedd diwethaf. Ond mae modd dadlau mai timau byddar Cymru sydd wedi cael y llwyddiant mwyaf.
Mae’r dynion wedi ennill Cwpan y Byd ddwywaith a'r merched hefyd yn Bencampwyr Byd ddwy flynedd yn ôl - llwyddiant a ysbrydolodd obaith newydd ar gyfer y dyfodol.
Er gwaethaf y llwyddiant ar y llwyfan byd-eang, mae pryderon yn parhau am ddyfodol y gamp yng Nghymru.
Mae cyn-gapten rygbi byddar Cymru, Jonathan Cudd yn galw am fwy o gefnogaeth gan Undeb Rygbi Cymru, yn enwedig o ran statws swyddogol ac adnoddau ariannol.
“Rydyn ni’n bencampwyr byd, Rydyn ni wedi ennill pob cystadleuaeth rydyn ni wedi chwarae ynddi. Dylem gael rhyw fath o safle swyddogol o fewn rygbi Cymru, bach mwy o barch. Mae angen help arnon ni nawr i symud ymlaen,” meddai.
      Gyda’r daith nesaf i Gwpan y Byd yn Japan wedi’i threfnu ar gyfer Tachwedd y flwyddyn nesaf, mae’r tîm yn wynebu heriau ariannol.
“Mae angen llawer o arian arno ni, ac mae angen mwy o chwaraewyr.” meddai Jonathan Cudd
“Rydyn ni wedi colli nifer dros y blynyddoedd, felly mae’n hanfodol cael mwy o rai ifanc yn dod drwodd yn y system.”
Trwy sesiynau hyfforddi tebyg i’r rhai a gafodd eu cynnal yn ddiweddar yn Aberafan, y nod yw creu gwaddol parhaol ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rygbi byddar yng Nghymru.
Ac un o sêr Tîm Byddar Menywod Cymru, a chyd-gadeirydd rygbi Byddar Cymru Kristy Hopkins sy'n hyfforddi’r sesiynau gan roi’r cyfleoedd yr oedd hi’n awchu amdanynt pan yn iau.
      “Roeddwn i’n meddwl pan oeddwn i’n ifancach nad oedd dim byd o gwmpas. Nawr erbyn hyn, mae cyfleoedd fel hyn i’r plant byddar yn hynod bwysig. Mae llawer ohonyn nhw mewn ysgolion prif ffrwd, lle nhw yw’r unig blentyn byddar. Mae dod i le fel hyn i chwarae a mwynhau yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Mae’r llwyddiant rhyngwladol wedi codi proffil y gamp ymhellach ac mae Elin Hopkins, gwraig Kristy ac un o’r gwirfoddolwyr, yn gobeithio ysbrydoli plant lleol fel ei merch i gymryd rhan yn y gamp.
      “Gyda thîm y menywod a thîm y dynion yn ennill Cwpan y Byd, mae’r gamp yn tyfu’n barod. Ond mae angen i rygbi byddar gael yr un cyfleoedd â rygbi’r menywod a’r dynion – mae lle i dyfu o hyd,” meddai.
I nifer o’r chwaraewyr ifanc, fel Arthur Wilkinson, nid datblygu sgiliau rygbi’n unig yw’r nod, ond cael bod yng nghwmni pobl sy’n deall yr un profiadau.
      “Mae’n anhygoel gweld yr holl blant sydd wedi dod yma heddiw.”
“Dwi wedi tyfu lan gyda chymorth clyw ac mae’n braf gweld pobl ifanc sydd wedi cael profiadau tebyg yn dod at ei gilydd i chwarae. Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonyn nhw’n chwarae dros Gymru ryw ddydd.”
Dyw Undeb Rygbi Cymru ddim wedi ymateb i gais Newyddion S4C am sylw.
