Sir Gâr: Cau ysgol gynradd wedi negeseuon yn ymwneud â chyllyll
Roedd yn rhaid cau ysgol yn Sir Gar ddydd Llun am fod negeseuon bygythiol ar-lein yn awgrymu y byddai unigolion yn mynd â chyllyll i’r safle, yn ôl yr heddlu.
Mae Ysgol Dafen yn Llanelli wedi bod ar gau yn ystod y dydd, ac mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi rhagor o fanylion nos Lun.
Nododd y llu iddyn nhw gydweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin gydol ddydd Llun.
Heddlu’r Met yn Llundain gafodd wybod am y negeseuon, a chafodd hynny ei drosglwyddo at Heddlu Dyfed-Powys am 02.30 oriau mân fore Llun, meddai'r llu.
Mae 13 o unedau’r heddlu – gan gynnwys heddlu arfog a swyddogion gyda chŵn – wedi bod yn bresennol yn yr ysgol ac ardaloedd cyfagos er mwyn cynnal ymchwiliadau.
Daeth y negeseuon gan ffynhonnell ddienw nad oes modd ei hadnabod heb unrhyw wybodaeth bellach, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd y llu eu bod nhw wedi cynnal ymchwiliadau trylwyr gan ddweud nad oes unrhyw berygl pellach.
“Nid oes gennym unrhyw reswm i gredu bod yna beryg i unrhyw un sy’n byw yn yr ardal,” meddai'r datganiad.
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Chris Neve ei fod yn cydnabod pryderon disgyblion a theuluoedd gan ddweud ei fod yn “ymddiheuro” am unrhyw oedi wrth eu diweddaru.
“Mae diogelwch yr ysgol a chywirdeb yr ymchwiliad wedi bod yn hollbwysig – ac wedi ein hatal rhag rhannu mwy o fanylion cyn hyn.
“Byddwch yn parhau i weld swyddogion yr heddlu yn Ysgol Gynradd Dafen ac o amgylch yr ardal drwy’r noson, gyda thimau hefyd yn ymweld ag ysgolion yn ardal ehangach Llanelli yfory er mwyn rhoi sicrwydd.”
Dywedodd y bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu cyfathrebu drwy ap yr ysgol.
