Tair blynedd o garchar i ddyn am ladd tad 'cariadus' ar ôl ei ddyrnu
Mae dyn o Abertawe wedi ei garcharu am dair blynedd wedi i ddyn arall farw ar ôl cael ei ddyrnu ganddo.
Fe blediodd Steven Craig Vonk, 51 oed, yn euog i ddynladdiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.
Bu farw Timothy Matthews ar ôl iddo gael ei ddyrnu unwaith gan Mr Vonk yn dilyn ymosodiad y tu allan i dafarn y Mill ym Mrynmill, Abertawe ar 25 Gorffennaf eleni.
      Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt o Heddlu’r De bod yr achos yn enghraifft o’r canlyniadau “difrifol” sydd yn gysylltiedig â dyrnu pobl.
“Byddwn yn annog eraill i feddwl am ba mor hawdd y gallai penderfyniadau fel hyn effeithio ar weddill eich bywyd chi, ac o bosib, dod â bywyd rhywun arall i ben.
“Fe wnaeth Timothy Matthews ddioddef anaf trychinebus i’w ben mewn ymosodiad annisgwyl.
“Ac mae ei farwolaeth wedi chwalu bywydau ei deulu a’i ffrindiau.”
Mewn datganiad personol yn y llys, dywedodd merch Mr Matthews, Serina: “Roedd Dad yn berson cariadus sydd yn cael ei golli gan nid fi yn unig, ond hefyd ei chwaer a’i holl ffrindiau.
"Mae ein teulu a phawb yn y gymuned wedi eu synnu gan yr hyn sydd wedi digwydd.
"Wnes i fyth ragweld y byddai bywyd Dad yn dod i ben mor sydyn oherwydd ei fod wedi mynd allan am noson gyda’i ffrindiau.
"Rwy’n cael cysur yn y ffaith y bydd ei gof yn parhau am byth."
