'Dim arian wrth gefn': Ysgol angen to newydd 10 mlynedd ers ei hadeiladu
'Dim arian wrth gefn': Ysgol angen to newydd 10 mlynedd ers ei hadeiladu
Clywodd cyfarfod o gabinet Cyngor Sir Penfro y bydd ysgol gynradd yn Ninbych-y-Pysgod yn gorfod cael to newydd sbon, lai na 10 mlynedd ers ei hadeiladu.
Mae adroddiad arbenigol wedi canfod problemau difrifol gyda lleithder a dŵr sydd wedi gwanhau cryfder to Ysgol Gynradd yr Eglwys Yng Nghymru yn Ninbych-y-Pysgod.
Mae un cynghorydd wedi galw am ymchwiliad.
Cafodd yr ysgol ei chodi dan gynllun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gydag arian o lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro.
Fe gostiodd y cynllun i godi'r ysgol ac adnewyddu yr adeilad drws nesaf er mwyn datbygu Ysgol Gynradd Gymraeg Hafan y Môr gyfanswm o £8.37m.
Ers cwblhau'r ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd yn 2016, mae dŵr wedi bod yn gollwng i mewn i'r adeilad o'r to.
Mae'r to wedi cael ei greu trwy ddefnyddio paneli wedi eu hinsiwleiddio.
Mae yna dros 230 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Mae astudiaeth dichonoldeb a gafodd ei gomisiynu gan y Cyngor Sir yn 2024 wedi darganfod mai'r unig ateb ymarferol ydy gosod tׅo newydd.
      Dyw union gost y gwaith adeiladu ddim wedi ei ddatgelu, ond mae Newyddion S4C wedi cael arddeall y gallai gostio mwy na £10m.
Ar hyn o bryd, mae gan y cyngor sir fwlch cyllido o £21.2m ar gyfer 2026-27.
Fe ddaw'r newyddion am do'r ysgol gynradd fisoedd yn unig ar ôl i Gyngor Sir Penfro orfod gwario dros £500,000 ar atgyweiriadau brys ar gyfer Ysgol Uwchradd Greenhill gerllaw.
Mae adroddiad aeth gerbron aelodau'r cabinet yn nodi fod y Prif Weithredwr, Will Bramble, wedi gorchymyn y dylid cynnal ymchwiliad i'r rhesymau am y trafferthion gyda'r to.
Cafodd yr ysgol ei dylunio gan dim pensaerniol mewnol y cyngor.
Cau'r ysgol
Y bwriad ydy symud y disgyblion allan o'r ysgol ar ddiwedd tymor yr haf yn 2026 ac mi allai'r ysgol orfod cau am hyd at 18 mis.
Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd ble fydd y plant yn cael eu haddysgu yn ystod y gwaith adeiladu, ond mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Rhagfyr 2026, a gallai gymryd hyd at 18 mis. Mae'n bosib y gallai'r disgyblion gael eu haddysgu mewn adeiladau dros dro ar safle'r ysgol, ar safle Ysgol Greenhill neu byddan nhw yn cael eu symud i ysgolion eraill.
      Mae'r Cynghorydd Rhys Jordan, Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg Ysgolion a Dysgu Cyngor Sir Penfro yn galw am ymchwiliad: "Mae’n sefyllfa nad oes unrhyw eisiau ei wynebu. Nid bai’r weinyddiaeth yw hyn ond nhw sydd yn gorfod ceisio datrys y sefyllfa. Mae hwn yn broblem gyda dyluniad a beth gafodd ei roi mewn lle 10 mlynedd nol.
"Dylsen ni byth fod mewn sefyllfa ble mae angen buddsoddiad mor sylweddol ar ysgol sydd yn llai na deng mlwydd oed. Does dim arian wrth gefn, a’r trethdalwr fydd yn gorfod talu am y camgymeriad hyn. Ydw i yn meddwl bod hyn yn iawn ? Na ond dyna sydd yn mynd i ddigwydd.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cael cais i ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Jordan.
Mesurau dros dro
Fel mesur dros dro, mae yn 510 o gynhalion wedi eu gosod i gynnal pwysau'r to ac mae adran blynyddoedd cynnar a chylch chwarae yr ysgol wedi gorfod cau.
Yn ystod y cyfarfod, dywedodd yr aelod cabinet, y Cynghorydd Michelle Bateman bod angen "rhannu gwersi" am y problemau oedd wedi deillio o drafferthion yr ysgol. "Mae gyda ni gyfrifoldeb i drosglwyddo'r wybodaeth a chodi ymwybyddiaeth ar draws y sector."
Fe ddywedodd y Cyfarwyddwr Addysg Steven Richards-Downes bod yr awdurdod yn "cwrdd gyda llywodraeth Cymru yn rheolaidd" ac wedi "ymrwymo i rannu gwersi ac unrhyw faterion allai fod o gymorth i awdrudodau eraill" gan nad nad dyma'r "unig adeilad cyhoeddus" sydd wedi cael ei godi yn y modd yma.
Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: "Mae diogelwch a lles ein dysgwyr a'n staff yn hollbwysig. Mae canfyddiadau'r astudiaeth ddichonoldeb yn glir. Dim ond gosod to newydd yn llawn fydd yn darparu'r amgylchedd dysgu diogel a modern y mae ein plant yn ei haeddu.
"Rydym wedi ein hymrwymo i sicrhau cyn lleied o effaith a phosib ar addysg ein dysgwyr yn ystod y broses hon a byddwn yn gweithio'n agos gyda chymuned yr ysgol i gyflwyno strategaeth gadarn. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymroddiad i addysg a diogelu o ansawdd uchel ledled Sir Benfro."
Cytunodd y cabinet y dylai'r cyngor nawr ofyn am dendrau ar gyfer y gwaith adeiladu, ac fe fydd strategaeth yn cael ei llunio erbyn mis Ionawr 2025 ar gyfer symud y disgyblion yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae cwmni Andrew Scott a fu'n gyfrifol am adeiladu'r ysgol wedi cael cais am ymateb.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o'r sefyllfa yn yr ysgol ac ry'n ni mewn cysylltiad â Chyngor Sir Penfro. Rydym yn cynnal cysylltiadau rheolaidd â phob awdurdod lleol ac nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ysgolion eraill yn cael eu heffeithio ar hyn o bryd."