Ci a laddodd fachgen naw mis oed yn anifail anwes teuluol

Ci a laddodd fachgen naw mis oed yn anifail anwes teuluol

Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai anifail anwes teuluol oedd y ci a laddodd fachgen naw mis oed yn Sir Fynwy. 

Bu farw’r babi yn y fan a’r lle wedi’r ymosodiad mewn cartref yn ardal stryd Crossway, Rogiet, sef cymuned y tu allan i Gil-y-coed, tua 18.00 ddydd Sul.

Mae Heddlu Gwent bellach wedi dweud bod y ci oedd yn anifail anwes i berchnogion y tŷ wedi ei ddifa ar ôl iddo gael ei dynnu o’r cartref. 

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl y llu, Vicki Townsend, bod ymchwiliadau yn parhau ac nad yw’n glir hyd yma pa frid oedd y ci. 

Dyw’r heddlu ddim wedi arestio unrhyw un mewn cysylltiad â’r digwyddiad. 

Mae’r ymchwiliad yn y “camau cynnar iawn” ar hyn o bryd ac mae swyddogion yn parhau i ymchwilio er mwyn “deall amgylchiadau’r digwyddiad trist hwn,” meddai. 

Ychwanegodd: “Rydym yn deall y gall digwyddiad fel hyn gael effaith ar ein cymunedau, ond rydym yn annog pobl i beidio â dyfalu ac i ystyried yr effaith y gall hynny ei chael ar y teulu a ffrindiau’r teulu.

“Os oes gennych unrhyw wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â ni.” 

'Galaru'

Yn ôl Peter Strong, aelod o Gyngor Sir Fynwy mae yna "deimlad dwfn o sioc" yn yr ardal, gyda'r gymuned gyfan yn "galaru."

Dywedodd bod meddyliau pawb gyda'r teulu. 

"I golli baban yn yr amgylchiadau hyn, i golli rhywbeth sydd yn llawen a llawn cariad, i gael hynny wedi’i gymryd oddi wrthych… mae’n hollol ofnadwy."

Ychwanegodd Katherine Close, ymddiriedolwr caffi Rogiet Community Junction y bydd pobl yn gefn i'r teulu nawr.

“Mae’r gymuned mewn sioc, dydych chi byth yn disgwyl i rywbeth fel hyn ddigwydd," meddai.

“Nid yn aml iawn yr ydym ni'n gweld llawer o gerbydau'r gwasanaethau brys o gwmpas, felly pan mae'n digwydd rydych chi’n gwybod bod rhywbeth difrifol wedi digwydd.

“Rydyn ni’n aros i glywed… ac yna mae’n fater o gefnogi'r teulu, cefnogi cymdogion, cefnogi ein cymuned.

“Rydyn ni wedi cael llawer o famau a babanod yn defnyddio'r caffi dros y blynyddoedd… Mae’n dorcalonnus.”  

Mewn datganiad yn gynharach fe ddywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Ddydd Sul 2 Tachwedd fe gawsom ein galw i adroddiadau o argyfwng meddygol yn Rogiet, Cil-y-coed am 18.02.

"Cafodd un uned ymateb uchel, uwch barafeddyg, rheolwr dyletswydd ac un ambiwlans brys eu danfon i'r lleoliad.

"Roedd y criwiau yn cael eu cefnogi gan ein Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus."

Llun: Ben Birchall/PA Media

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.