Rhybudd i bobl Pwllheli fod yn wyliadwrus ar ôl adroddiad am 'unigolyn amheus'
Mae'r heddlu wedi rhybuddio pobl mewn tref yng Ngwynedd i fod yn wyliadwrus ac i gadw drysau wedi'u cloi ar ôl adroddiadau am "unigolyn amheus" yno.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod dyn ifanc wedi bod yn mynd o ddrws i ddrws ym Mhwllheli ddydd Llun yn honni ei fod yn gwerthu ffonau symudol.
Roedd y dyn 20-30 oed yn wyn gyda gwallt golau ac roedd yn gwisgo cot las a trainers gwyn yn ôl yr heddlu.
Mae gwiriadau wedi cadarnhau nad oedd unrhyw werthwyr ffonau dilys yn gweithredu’n lleol ar y pryd.
Mae'r heddlu bellach yn ymchwilio i ddigwyddiad o ymddygiad aflonyddgar ar ôl arestio dyn mewn maes gwersylla ym Morfa Bychan.
Roedd y dyn o dan sylw wedi ymosod ar swyddog heddlu. Nid yw'r swyddog hwnnw wedi dioddef anafiadau difrifol.