Ysgol yn Sir Gâr i ail agor ddydd Mercher wedi negeseuon bygythiol
Bydd Ysgol Gynradd yn Sir Gâr yn ailagor yn llawn i ddisgyblion a staff ddydd Mercher ar ôl cau am ddeuddydd wedi pryderon am ddiogelwch ar y safle.
Roedd yn rhaid cau Ysgol Gynradd Gymunedol Dafen yn Llanelli ddydd Llun am fod negeseuon bygythiol ar-lein yn awgrymu y byddai unigolion yn mynd â chyllyll i’r safle, yn ôl yr heddlu.
Heddlu’r Met yn Llundain gafodd wybod am y negeseuon, a dywedodd Heddlu Dyfed-Powys i'r neges gael ei throsglwyddo atyn nhw am 02.30 fore Llun.
Cafodd 13 o unedau’r heddlu – gan gynnwys heddlu arfog a swyddogion gyda chŵn – eu hanfon i'r ysgol ac ardaloedd cyfagos er mwyn cynnal ymchwiliadau.
Daeth y negeseuon gan ffynhonnell ddienw nad oes modd ei hadnabod, heb unrhyw wybodaeth bellach, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.
Cyhoeddodd cyngor Sir Gâr brynhawn Mawrth, nad ydynt o'r farn fod perygl bellach.
"Yn dilyn ymholiadau helaeth gan Heddlu Dyfed-Powys, ac yna diweddariad neithiwr, bernir nad oes perygl erbyn hyn, ac nid oes ymchwiliad parhaus," meddai'r datganiad.
Yn ôl y Cyngor Sir, daeth penderfyniad nos Lun i beidio ag ailagor yr ysgol ddydd Mawrth er mwyn rhoi cyfle i’r rhieni wneud trefniadau eraill ar gyfer eu plant.
Mae'r awdurdod wedi diolch i'r gymuned ysgol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod "cyfnod rhwystredig a phryderus i blant, rhieni a staff."
"Mae diogelwch disgyblion a staff yn hollbwysig i'r Cyngor Sir ac rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys drwy gydol y digwyddiad hwn i sicrhau diogelwch y gymuned ysgol gyfan,"meddair datganiad.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg: "Hoffwn ganmol Ysgol Gynradd Gymunedol Dafen am fod mor gryf yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn anodd i bawb ac rydyn ni'n ddiolchgar am eu dealltwriaeth wrth i ni gefnogi Heddlu Dyfed-Powys o ran sicrhau y gall disgyblion a staff ddychwelyd i amgylchedd addysg diogel a hapus."
