Cyn ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau Dick Cheney wedi marw yn 84 oed

04/11/2025
Dick Cheney

Mae cyn ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, Dick Cheney, wedi marw yn 84 oed.

Ef oedd prif bensaer y "rhyfel yn erbyn terfysgaeth" a arweiniodd at ryfeloedd yn Irac ac Afghanistan yn sgil ymosodiad terfysgol 9/11.

Roedd yn cael ei ystyried yn un o’r dirprwy Arlywyddion mwyaf pwerus yn hanes yr Unol Daleithiau, gan wasanaethau dau dymor gyda’r Arlywydd George W. Bush.

"Roedd ei wraig annwyl o 61 mlynedd, Lynne, ei ferched, Liz a Mary, ac aelodau eraill o'r teulu gydag ef wrth iddo farw," meddai'r teulu.

"Roedd Dick Cheney yn ddyn gwych a da a ddysgodd ei blant a'i wyrion i garu ein gwlad, ac i fyw bywydau o ddewrder, anrhydedd, cariad, caredigrwydd - a digon o bysgota.

"Rydym yn ddiolchgar dros ben am bopeth a wnaeth Dick Cheney dros ein gwlad. Ac rydym wedi ein bendithio dros ben i fod wedi caru a chael ein caru gan y cawr hwn o ddyn."

Ychwanegodd y datganiad ei fod wedi marw oherwydd cymhlethdodau niwmonia a chlefyd y galon.

Er ei fod yn un o ffigyrau mwyaf pwerus y Blaid Weriniaethol yn ystod ei gyfnod mewn grym rhwng 2001 a 2009 roedd yn feirniadol iawn o’r Arlywydd presennol Donald Trump.

Dywedodd ei fod wedi pleidleisio o blaid yr ymgeisydd Democrataidd, Kamala Harris, yn etholiad 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.