Swyddfa'r Post: Alan Bates yn cytuno ar setliad ariannol

04/11/2025
Alan Bates

Mae Syr Alan Bates, y cyn-is-bostfeistr o Landudno a arweiniodd yr ymgyrch am gyfiawnder i ddioddefwyr sgandal Swyddfa'r Post wedi cytuno ar setliad ariannol gwerth miliynau o bunnau. 

Dyw union swm yr iawndal gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi ei ddatgelu, ond yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau, gallai fod rhwng £4 miliwn a £5 miliwn.  

Cafodd tua 1,000 o bobl eu herlyn ar gam yn y Deyrnas Unedig rhwng 1999 a 2015, oherwydd diffygion yn system gyfrifiadurol Horizon a oedd yn cael ei defnyddio gan Swyddfa'r Post. 

Roedd y system gan Fujitsu yn gwneud iddi ymddangos fod arian ar goll.  

Cafodd y sgandal a'r frwydr am gyfiawnder eu hadrodd mewn drama deledu ar ITV Mr Bates Vs The Post Office. 

Roedd Alan Bates wedi bod yn feirniadol o Adran Busnes a Masnach San Steffan sy'n goruchwylio'r taliadau iawndal i ddioddefwyr gan eu cyhuddo o lusgo eu traed a newid y rheolau.  

Ond mewn datganiad fore Mawrth, cyhoeddodd yr adran fod setliad ariannol wedi ei gytuno yn achos Syr Alan Bates: “Rydym yn rhoi teyrnged i Syr Alan Bates, am ei record hir yn ymgyrchu ar ran dioddefwyr, ac rydym bellach wedi talu mwy na £1.2 biliwn i fwy na 9,000 o ddioddefwyr.

“Gallwn gadarnhau fod achos Syr Alan yn ddiwedd ar y broses [iawndal] a'n bod wedi dod i setliad ariannol.”

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.