Syr Anthony Hopkins yn dweud mai 'nonsens' yw cyflyrau niwroamrywiaeth
Mae Syr Anthony Hopkins wedi ei feirniadu ar ôl dweud mai 'nonsens' yw cyflyrau Awtistiaeth, ADHD ac OCD.
Mewn cyfweliad gyda The Sunday Times dywedodd yr actor sydd yn ei 80au mai 'sothach' yw'r cyflyrau.
"Wel mae'n rhaid mod i yn sinigaidd achos nonsens yw e i gyd, sothach: ADHD,OCD, Asperger, bla bla bla. Byw yw hyn, jest bod yn fod dynol, yn llawn cymhlethdodau a dirgelwch a stwff sydd ynddon ni i gyd, yn llawn ffaeleddau, bawiach a bod yn orffwyll. Mae'n rhan o fod yn berson," meddai yn y cyfweliad.
Dyw'r term asperger ddim yn cael ei ddefnyddio erbyn hyn ac mae yn hytrach yn dod o dan yr ymbarél Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth.
Ychwanegodd bod y termau erbyn hyn yn "ffasiwn".
Ond dywedodd hefyd wrth The Sunday Times bod ei wraig yn credu ei fod o'n awtistig am ei fod yn "obsesiynol" am rifau a chael trefn.
Yn yr erthygl mae'n dweud ei fod wedi bod yn flin ac yn aml heb reswm a'i fod fel plentyn wedi teimlo nad oedd yn gallu ffitio mewn unrhyw le.
Dywedodd wrth The Sunday Times ei fod yn teimlo ei fod yn "gwisgo masg bob bore" a'i fod wedi cael ei annog i weld seiciatrydd dros y blynyddoedd oherwydd ei deimladau blin.
Mae elusennau ADHD ac Awstiaeth wedi condemnio ei sylwadau ers iddo wneud y cyfweliad gan ddweud bod yna beryg bod hyn yn arwain at gamddealltwriaeth ynglŷn â'r cyflyrau a stigma.
Yn y gorffennol mae'r actor o Gymru wedi trafod ei alcoholiaeth. Llynedd fe wnaeth ysgrifennu neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn nodi pumdeg mlynedd ers iddo fod yn sobr. Dywedodd yn y neges y dylai person ofyn am help os oes ganddyn nhw broblem.