Y Canghellor yn gwrthod dweud na fydd yn codi trethi

Rachel Reeves yn gwneud araith cyn y gyllideb

Mae'r canghellor Rachel Reeves wedi gwrthod dweud na fydd yn codi trethi.

Wrth wneud araith yn Stryd Downing fore Mawrth dywedodd y bydd yn gwneud y "dewisiadau angenrheidiol" pan fydd yn cyhoeddi ei chyllideb yn ddiweddarach yn y mis.

Roedd y blaid Lafur wedi dweud yn ei maniffesto cyn ennill yr etholiad na fydden nhw yn codi trethi incwm, Yswiriant Cenedlaethol na Threth ar Werth pe bydden nhw mewn grym.

Ond yn ystod y gynhadledd dywedodd Rachel Reeves  bod y "byd wedi taflu hyd yn oed yn fwy o heriau atom ni" yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ychwanegodd y bydd ei chyllideb yn un a fydd yn canolbwyntio ar degwch a thyfiant.

Mae economegwyr wedi bod yn darogan y bydd Rachel Reeves yn codi trethi gyda'r felin drafod Resolution Foundation yn dweud ei bod yn "anorfod".

Mae'r felin drafod wedi dweud mai codi treth incwm fyddai'r "opsiwn gorau" i ddarganfod mwy o arian. Byddai modd cyferbynnu hynny gyda thoriad o 2 ceiniog mewn Yswiriant Cenedlaethol medden nhw.

'Seiliau cadarn'

Mae'r ffaith bod yr araith wedi ei wneud dair wythnos cyn y gyllideb yn awgrymu yn gryf y bydd trethi yn cael eu codi.

Yn ystod yr araith dywedodd Ms Reeves mai blaenoriaethau Prydain yw amddiffyn y gwasanaeth iechyd, lleihau'r ddyled genedlaethol a chostau byw pobl. Y bwriad yw gosod "seiliau cadarn ar gyfer yr economi," meddai.

Dywedodd hefyd bod tariffau a chwyddiant sydd yn "araf yn dod i lawr" yn enghreifftiau o'r heriau sydd yn wynebu'r llywodraeth. Ychwanegodd bod yna bwysau gwariant wedi bod gan gynnwys yr angen i gynyddu ar wariant i amddiffyn y DU. 

Yn ei haraith dywedodd nad yw hi yn hapus gyda thwf o 1% yn yr economi ac mai'r bwriad gyda'r gyllideb yw canolbwyntio ar leihau chwyddiant. 

"Dyw'r gorffennol ddim yn gorfod pennu ein dyfodol," meddai. Dywedodd bod y Blaid Lafur wedi ei hethol er mwyn "torri'r cylch o ddirywiad" ac y bydd yr economi ym Mhrydain yn un "fydd yn gweithio i bawb". 

Llun: Justin Tallis/PA Wire

 

   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.