Cwpan y Byd 2027: Cyhoeddi gwrthwynebwyr Cymru yn y rowndiau rhagbrofol
Cwpan y Byd 2027: Cyhoeddi gwrthwynebwyr Cymru yn y rowndiau rhagbrofol
Fe fydd Cymru yn wynebu Tsiecia, Albania a Montenegro yn y cymal agoriadol o’r rowndiau rhagbrofol i gyrraedd Cwpan y Byd Menywod 2027 ym Mrasil.
Mewn seremoni i dynnu enwau allan o’r het ym mhencadlys UEFA yn Nyon, yn y Swistir, fe wnaeth tîm Rhian Wilkinson ddarganfod eu gwrthwynebwyr yng ngrŵp B1.
Fe fydd y chwe gêm, sef tair gêm gartref a thair oddi gartref, yn cael eu chwarae fis Mawrth, Ebrill a Mehefin 2026.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1985699559775871320
Mae timau Ewrop wedi eu gwahanu mewn i dri chynghrair, A, B a C, gyda hyd at 12 tîm yn gallu cyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth.
Fe fydd enillwyr y pedwar grŵp yng Nghynghrair A yn sicrhau eu lle yn awtomatig, ond fe fydd yn rhaid i’r gweddill o’r timau barhau i frwydro am le drwy’r gemau ail gyfle.
Yn rhan o gynghrair B, fe fydd Cymru yn ceisio ennill eu lle ar frig eu grŵp, sef B1, er mwyn sicrhau llwybr mwy ffafriol yn y gemau ail gyfle.
Fe fydd yna ddwy rownd o gemau ail gyfle, gyda saith tîm yn hawlio eu lle ym Mrasil yn y pen draw, tra bod yna gyfle i wythfed dîm gymhwyso drwy gêm ail gyfle yn erbyn gwlad o gyfandir gwahanol.
Llun: Rhian Wilkinson.