Ymgyrch Seal Bay: Dyn lleol yn sôn am ei rôl wrth smyglo cyffuriau
Bydd dyn o Sir Benfro yn rhannu ei brofiad o fod yn rhan o ymgyrch smyglo cyffuriau rhyngwladol yn yr 1980au am y tro cyntaf erioed, fel rhan o raglen ddogfen newydd.
Ddeugain mlynedd ers i smyglwyr cyffuriau lanio yn Seal Bay, Trefdraeth, mae dwy raglen ddogfen yn craffu ar yr hyn ddigwyddodd yn 1983 pan gafodd siambr danddaearol ei darganfod.
Roedd y siambr yn gysylltiedig â chylch smyglo oedd yn cynnwys y Dwyrain Canol.
Am y tro cyntaf mae dyn lleol yn siarad am y rhan ganolog wnaeth o chwarae yn yr ymgyrch yn ystod y rhaglenni sydd yn cael eu darlledu ar S4C nos Fawrth a Mercher.
Actor sydd yn adrodd geiriau’r gŵr sy’n cael ei adnabod fel ‘Jim’, rhag iddo gael ei adnabod: “Rwy’n fwriadol wedi ei adael ar ôl am flynyddoedd a blynyddoedd,” meddai.
      Hanes Ymgyrch Seal Bay
Fe ddaeth y cylch smyglo i’r amlwg am y tro cyntaf yn ystod yr haf yn 1983, wedi i bysgotwr lleol o’r enw Andy Burgess ddod o hyd i darpolin yn gorchuddio rhan o draeth Pwll Coch.
Wedi’i adnabod yn lleol fel Seal Bay, mae’r traeth yn anghysbell gyda dim ond modd i’w gyrraedd o’r môr.
Pan gyrhaeddodd tîm gwylwyr y glannau yno fe ddaethon nhw o hyd i ddyn a oedd yn honni ei fod yn "ymarfer ar gyfer taith i’r Ynys Las (Greenland)”. Ond doedd hynny “ddim yn teimlo'n iawn," i Essex Havard Snr oedd yn arwain y tîm.
Yn ddiweddarach fe gafodd twll tanddaearol cudd ei ddarganfod. O dan y twll roedd ystafell llawn bwyd, offer radio a resin gwydr ffibr.
Fe arweiniodd y Ditectif Brif Arolygydd Derek Davies a'r Ditectif Don Evans o Heddlu Dyfed-Powys yr ymgyrch. O fewn dyddiau fe wnaethon nhw lwyddo i arestio tri dyn.
Fe gafodd y tri- Robin Boswell, Ken Dewar a Sam Spanggaard - eu cymryd i'r ddalfa. Roedd Spanggaard, dinesydd o Ddenmarc yn cael ei adnabod fel "y dyn gyda'r wyneb rwber". Roedd o eisoes yn enwog ledled Ewrop fel masnachwr cyffuriau oedd wedi llwyddo i ddianc. 
Ond roedd yr heddlu yn wynebu problem ddifrifol: doedd dim cyffuriau. Roedd y contraband tybiedig wedi diflannu, a heb dystiolaeth gorfforol, roedd yr achos mewn perygl o chwalu.
Dechreuodd y ditectifs amau fod rhywun lleol, rhywun a oedd yn adnabod yr arfordir, wedi bod yn helpu.
      'Jim'
Mae’r rhaglen ddogfen yn taflu goleuni ar sut y gwnaeth yr heddlu ddarganfod 'Jim' a'i gysylltiad gyda'r cylch smyglo.
"Fe wnaethon nhw fy nihuno un bore yn fy ngharafán ac ro’n i wedi fy synnu," meddai ‘Jim.’
"Ro’n i'n meddwl ’mod wedi llwyddo i ddianc o’r holl beth. Do’n i ddim wedi arfer delio â'r heddlu. Fe wnaethon nhw daflu llwyth o gyhuddiadau ata’ i a codi ofn arna’ i."
Yn ôl y cyn-Dditectif Brif Arolygydd Don Evans, "Dyma'r datganiad gorau i mi ei weld yn ystod fy ngwasanaeth cyfan."
Dros gyfnod o 36 awr, fe roddodd Jim adroddiad rhyfeddol o'i gysylltiad â Boswell a'i griw.
Roedd unwaith wedi addasu ceir ar gyfer Boswell ac wedi cael ei dynnu i mewn i'r hyn yr oedd yn ei feddwl oedd yn "rhywbeth anturus."
Daeth yr hyn a ddechreuodd fel gwaith mecanyddol yn fuan i fod yn gynllwyn a oedd yn ymestyn o Sir Benfro i Moroco a thu hwnt.
      Dirgelwch
Mae rhan gyntaf Ymgyrch Seal Bay yn archwilio hyn oll nos Fawrth, tra bod ail ran y rhaglen ddogfen yn dilyn yr ymchwiliad a ddigwyddodd ymhell y tu hwnt i orllewin Cymru.
Yn ddiweddarach fe ddaeth cysylltiad i'r amlwg rhwng Robin Boswell, ei gyn-wraig Susan, a dyn o'r enw Donald Holmes. Roedd yr Heddlu Metropolitan wedi bod yn amau Holmes o fasnachu cocên.
Dyma ddechrau ar ymgyrch gymhleth yn cynnwys nifer o asiantaethau yn Llundain, Hampshire a Sir Benfro.
Fe wnaeth yr heddlu ddarganfod dogfennau codio, ffotograffau a chofnodion ariannol oedd yn awgrymu rhwydwaith smyglo rhyngwladol.
Er bod rhai manylion yn parhau i fod yn ddirgelwch, daeth yr ymchwiliad i ben yn un o dreialon mwyaf dramatig Cymru.
Bydd modd gwylio Ymgyrch Seal Bay ar S4C am 21.00 nos Fawrth a’r ail ran nos Fercher.