Môn: Cais i ailddatblygu hen ysgol yn westy a lleoliad priodas
Fe fydd cais i ail-ddatblygu adeilad hen ysgol ar Ynys Môn er mwyn creu gwesty bychan moethus a lleoliad priodas yn cael ei ystyried yr wythnos hon.
Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn wedi derbyn cais cynllunio gan Mr Jerry Huppert i ailddatblygu Penrallt yn Llangefni yn westy 13 ystafell “ansawdd uchel” a lleoliad ar gyfer priodasau gyda chapasiti i 200 o bobl.
Yn wreiddiol yn adeilad i Ysgol Sir Llangefni, cafodd Penrallt ei godi yn y 1900au cynnar, cyn iddo gael ei ddefnyddio'n ddiweddarach fel campws i fyfyrwyr Coleg Menai.
Mae’r safle, sydd hefyd yn cynnwys cofgolofn restredig gradd II i goffáu cyn-disgyblion yr ysgol fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bellach wedi bod yn wag ers rhai degawdau.
Mae datblygwyr yn gobeithio adnewyddu'r safle ac yn dweud y byddai’r gwesty newydd yn creu hyd at 20 o swyddi, gan gynnwys 14 swydd lawn amser, pe byddai’n cael ei ganiatáu.
      Wrth amlinellu’r cais, dywedodd yr ymgeisydd yn y datganiad cynllunio, drwy’r asiant Arwel Thomas: “Mae’r datblygiad wedi’i gynllunio er mwyn cynnal cyfoeth cymeriad hanesyddol y safle gan ddenu gweithgaredd economaidd a chymdeithasol i galon Llangefni gyda thwristiaeth, ailddatblygiad sy’n cynnal treftadaeth, ac ymgysyllted â busnesau lleol.
“Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers cyfnod estynedig, gan arwain at ddirywiad graddol i’w chymeriad a’r ardal gyfagos, gyda ffenestri wedi’u gorchuddio gan fyrddau a phlanhigion tua’r cefn wedi gordyfu.”
Wrth drafod dylanwad posib y cynllun ar yr economi leol, dywedodd datblygwyr y bydd contractwyr lleol yn cael eu defnyddio i gwblhau’r gwaith, tra y byddai cwmnïau arlwyo a chynhyrchwyr lleol yn darparu bwyd a diod i’r lleoliad.
Byddai hefyd yn annog ymwelwyr i ddefnyddio cyfleusterau canolfan hamdden Plas Arthur sydd gerllaw'r safle.
“Fe fyddai’r cynllun yn cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r dref a chynnig hwb drwy gydol y flwyddyn i’r economi leol, yn enwedig gyda digwyddiadau ar adegau tawelach a chanol wythnos.”
      Mae’r cais yn cynnwys maes parcio i 44 o geir ar y safle. Mae'r datblygwyr yn dweud bod hynny yn ogystal ag agosrwydd y lleoliad at lwybrau trafnidiaeth cyhoeddus yn golygu na fyddai “sgil effeithiau andwyol” ar drafnidiaeth leol.
Mae un cynghorydd lleol wedi nodi “pryder lleol” am y cais, tra bod yna lythyrau yn ei wrthwynebu sydd yn dweud bod yr adeilad yn “anaddas” am ei fod mewn ardal sy’n agos i dai ac ysgolion eraill, gan gyfeirio at Ysgol Gyfun Llangefni a Chanolfan Addysg y Bont.
Roedd rhai wedi amlygu eu pryderon am gynnydd mewn traffig, problemau parcio, sŵn a sgil effaith ar fywyd gwyllt.
Roedd un llythyr yn cefnogi’r datblygiad yn dweud y byddai’n dod ag “adeilad hyfryd” yn ôl i ddefnydd cyn ei fod yn ‘”dadfeilio ymhellach”.
Mae adran gynllunio’r cyngor wedi argymell derbyn y cais.
Fe fydd y cais yn mynd gerbron pwyllgor cynllunio’r cyngor ddydd Mercher.