Gweithiwr wedi marw wedi i dŵr ddymchwel yn Rhufain
Mae gweithiwr wedi marw wedi i ran o dŵr canoloesol ddymchwel ger y Colosseum yn Rhufain, yr Eidal.
Cafodd Octay Stroici ei dynnu allan bron ddeuddeg awr ar ôl i ran o'r tŵr ddymchwel. Fe fuodd farw yn yr ambiwlans ac ofer oedd ymdrechion y meddygon yn yr ysbyty i achub ei fywyd.
Mae Swyddfa Dramor Romania wedi dweud ei fod yn dod o Romania. Mae un arall o'r gweithwyr a gafodd eu tynnu o'r rwbel hefyd yn dod o'r wlad.
Y gred yw bod un o'r gweithwyr yn parhau mewn cyflwr difrifol.
Roedd yr ymgais gan weithwyr tân i geisio achub Stroici wedi ei ddisgrifio fel un "cymhleth iawn". Fe ddefnyddio timau achub dronau a pheiriannau clirio'r rwbel er mwyn ceisio ei gyrraedd. Tra'n gwneud y gwaith roedd yna beryg y byddai'r tŵr yn dymchwel ymhellach.
Hefyd fe ddechreuodd ail ran o'r tŵr, sydd yn 29m, falu gyda brics yn disgyn i lawr.
Roedd Stroici wedi bod yn effro ac yn siarad gyda'r gweithwyr achub trwy gydol y cyfnod pan gafodd ei achub.
Mae’r Torre der Conti rhwng lleoliadau enwog y Piazza Venezia a’r Colosseum.
Cafodd y tŵr ei adeiladu yn y 13eg ganrif ar gyfer y Pab ar y pryd, a'i deulu.
Roedd y gwaith o adfer yr adeilad i fod i'w gwblhau erbyn diwedd 2026 ar ôl pedair blynedd o waith atgyweirio.
Mae Swyddfa Erlyniad Rhufain wedi dechrau ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd.
Llun: Reuters