Dedfryd o garchar i brifathro am anafu dyn mewn ymosodiad yn ei ysgol
Dedfryd o garchar i brifathro am anafu dyn mewn ymosodiad yn ei ysgol
*Rhybudd: Gall cynnwys y fideo beri gofid.*
Mae prifathro wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis yn y carchar am anafu dyn gyda thyndro (wrench) mewn ymosodiad yn ei ysgol.
Plediodd Anthony Felton o Orseinon yn euog i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol mewn achos ar ddechrau'r mis.
Roedd y prifathro 54 oed yn ei waith yn Ysgol Gatholig Sant Ioan ar 5 Mawrth 2025 pan ymosododd ar ei gydweithiwr.
Roedd y dioddefwr, Richard Pyke, 51 oed, yn eistedd ar gadair pan ddaeth Felton y tu ôl iddo ac estyn ei arf cyn taro Mr Pyke ar ei ben sawl gwaith.
Dioddefodd Mr Pyke mân anafiadau ac mae wedi rhoi caniatad i'r fideo o'r ymosodiad gael ei gyhoeddi.
Dywedodd Ieuan Rees, ar ran yr erlyniad, fod Felton yn credu bod Mr Pyke wedi cysgu gydag athrawes arall yr oedd wedi bod mewn perthynas â hi yn.
“Mae tystiolaeth ei wraig a’r cyfaddefiadau a wnaeth iddi fod Mr Felton wedi bod mewn perthynas ag aelod arall o staff ac wedi darganfod yn ddiweddar mai ef oedd tad ei phlentyn,” meddai.
“Ar ben hynny, credai fod Mr Pyke bellach wedi dechrau ei berthynas ei hun â’r ddynes honno.”
Ar ôl y digwyddiad ar Fawrth 5 eleni, taflodd Felton y tyndro i ffwrdd a gadael yr ysgol yn ei gar.
Yna anfonodd e-bost at yr holl staff yn ymddiheuro “am y problemau a’r gofid yr oedd ei weithredoedd yn debygol o fod wedi eu hachosi”.
Dedfrydodd y Barnwr Paul Thomas KC ef yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener i ddwy flynedd a phedwar mis yn y carchar.
Dywedodd Mr Thomas fod yr ymosodiad gan y pennaeth ar ei ddirprwy o ganlyniad i "genfigen rywiol llethol".
Dywedodd Abul Hussain o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Ymosododd Anthony Felton ar ddyn nad oedd yn gallu amddiffyn ei hun drwy ei daro ag arf metel sawl gwaith, mae hyn yn dangos mai ei fwriad oedd achosi niwed difrifol i’r dioddefwr.
“Roedd y lefel eithafol hwn o drais gan weithiwr proffesiynol yn y gweithle, a hynny heb reswm, yn frawychus.
“Yn rhy aml o lawer, mae ymosodiadau o'r math hwn yn arwain at anafiadau sy’n newid bywyd neu at ganlyniadau angheuol, ac rydym yn ddiolchgar nad dyna oedd y canlyniad yn yr achos hwn.”