Gwaharddiad ar bibellau dŵr i ddod i rym yn Sir Benfro
Fe fydd gwaharddiadau ar ddefnydd o bibellau dŵr yn dod i rym yn Sir Benfro ddiwedd y mis.
Cyhoeddodd Dŵr Cymru y bydd Gwaharddiad Defnydd Dros Dro yn dod i rym am 8:00 ar 19 Awst yn Sir Benfro.
Dywedodd y cwmni fod y penderfyniad wedi ei wneud er mwyn sicrhau cyflenwadau trwy’r haf ac i’r hydref.
Mae llai o law a thymereddau uchel dros y misoedd diwethaf wedi cynyddu’r galw am ddŵr a lleihau cyflenwadau mewn cronfeydd.
Dywed y cwmni mai dim ond 60% o'r glawiad disgwyliedig y mae Sir Benfro wedi'i weld rhwng mis Mawrth a Gorffennaf.
Daw'r cyhoeddiad wedi i'r Swyddfa Dywydd gofnodi'r diwrnod poethaf ar gofnod yng Nghymru fis diwethaf.
Cafodd tymheredd o 37.1° Celsius ei gofnodi ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint.