Newyddion S4C

Theatr Genedlaethol Cymru i 'sicrhau cynrychiolaeth' mewn rhannau LHDT+

tHEATR

Mae cyfarwyddwr creadigol newydd Theatr Genedlaethol Cymru wedi dweud y bydd y cwmni yn "sicrhau cynrychiolaeth" ar gyfer rhannau LHDT+ mewn proseictau newydd.  

Mae dadl wedi datblygu am actorion heterorywiol a chydryweddol yn chwarae cymeriadau sydd yn rhan o'r gymuned LHDT+.

Yn 2019, fe wnaeth yr undeb actorion Equity lansio canllawiau ar gyfer y diwydiant er mwyn cynyddu'r gynrychiolaeth o bobl LHDT+ ar y llwyfan. 

Mae Newyddion S4C yn deall fod y Theatr Genedlaethol wedi ail-gastio un rôl benodol mewn drama ddiweddar er mwyn sicrhau fod actor LHDT+ yn chwarae'r rhan. 

Mewn sesiwn holi ac ateb yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Steffan Donelly, a gafodd ei benodi yn gyfarwyddwyr creadigol ym mis Mawrth eleni, ei fod yn bwysig bod y cwmni yn ymwybodol o gefndiroedd yr actorion sydd yn cael eu castio. 

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae sŵn mawr o gwmpas be' sy'n cael ei alw yn authentic casting," meddai. 

"I fi, mae cael gymaint o leisiau â sy'n bosib mewn 'stafell yn buddio'r gwaith, maen nhw'n sgyrsiau cadarnhaol, sgyrsiau sydd yn dŵad o sawl perspective.

"A lle mae gwaith yn trafod cymuned penodol, ni wastad fel cwmni yn sicrahu fod cynrychiolaeth o'r cymunedau yna."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.