Y BBC 'heb ymchwilio digon' i honiadau yn erbyn y DJ Tim Westwood

Y DJ Tim Westwood. Llun: WiciCommons
Mae adolygiad i honiadau o gamymddwyn rhywiol gan y DJ Tim Westwood wedi canfod y dylai'r BBC fod wedi ymchwilio'n fwy manwl i honiadau yn ei erbyn.
Dywedodd Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol Bwrdd y BBC, Nick Serota, bod cyfnodau yn y gorffennol lle y dylai'r BBC fod wedi ymchwilio i'r materion oedd wedi codi.
Yn dilyn ymchwiliad gan The Guardian a'r BBC ym mis Ebrill, fe ddaeth nifer o honiadau hanesyddol yn erbyn y DJ i'r golwg.
Mae Tim Westwood wedi gwadu unrhyw gamymddwyn.
Darllenwch fwy yma.