Newyddion S4C

Eisteddfod: Emosiynau cymysg 'wrth weld y llefydd gwag’ wedi’r pandemig

Eisteddfod: Emosiynau cymysg 'wrth weld y llefydd gwag’ wedi’r pandemig

Mae Archdderwydd yr Orsedd yn “gweld y llefydd gwag” yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi’r pandemig.

Mae Myrddin ap Dafydd wedi bod yn ei rôl ers 2019 ac wedi colli dwy Eisteddfod Genedlaethol yn ei gyfnod yn sgil y pandemig.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Myrddin ap Dafydd fod yr emosiynau’n “gymysg iawn” yn yr Eisteddfod.  

“Ma’ ‘na lawenydd oes ond ma’ ‘na gydymdeimlo a ma’ ‘na emosiynau dwfn iawn weithia’ yn cymysgu a dwi’n meddwl ein bod ni’n gryfach ac yn gyfoethocach wrth blethu’r rhain yn agored hefyd.

“‘Dan ni’n gweld y llefydd gwag ac mae hwnna ‘di’n taro ni ac ydan ‘dan ni’n gwerthfawrogi pawb sydd yma ond ma’ ‘na hiraeth ymhlêth ac mae’n rhywbeth mae’n rhaid i ni fyw a’i dderbyn a mynd ymlaen i’r dyfodol hefo fo.

“Ond dwi’n meddwl wrth gyd-gyfarfod, mae’r bylchau wedi brifo mwy oherwydd hynny.”

Image
Yr Orsedd
Mae Myrddin ap Dafydd wedi bod yn Archdderwydd yr Orsedd ers 2019.

Yng nghyfarfod blynyddol Yr Orsedd fore Iau, bu pleidlais o blaid cynlluniau i ymestyn cyfnod Archdderwydd yr Orsedd i dair Eisteddfod yn hytrach na thair blynedd.

Mae hyn yn golygu y bydd Myrddin ap Dafydd yn parhau yn y rôl ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

“Pan o’n i’n dechrau arni o’n i’n edrych ymlaen, o’dd gynnon ni Eisteddfod Dyffryn Conwy, ‘Steddfod Tregaron Ceredigion ac Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

“Ac mi fyddai wedi bod yn chwithig colli’r triawd yna, mae’r dair ardal yna’n golygu llawer iawn i mi’n bersonol a deud y gwir, ac felly dwi’n falch iawn bod y tymor ‘di ymestyn.  

“Dwi’n teimlo fel bydda i’n hen iawn erbyn y diwedd cofia, mae amser ‘di mynd yn ei flaen!”

Llun: Eisteddfod Genedlaethol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.