Newyddion S4C

Cyhoeddi'r cynnydd mwyaf mewn cyfraddau llog ers 27 mlynedd i 1.75%

04/08/2022
Banc / Arian / Costau

Mae Banc Lloegr wedi cynyddu cyfraddau llog i o 1.25% i 1.75%.

Dyma'r cynnydd mwyaf mewn cyfraddau llog ers 2008, ac mae'r cam yn ymdrech gan bwyllgor ariannol y banc i geisio rheoli chwyddiant.

Dywedodd y banc fod prisiau nwyddau wedi codi 9.4% o gymharu â blwyddyn yn ôl, sydd yn llawer iawn uwch na'r targed o 2%.

Y prif reswm am y cynnydd mewn lefel chwyddiant oedd prisiau ynni uwch, gydag ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn arwain at gynnydd ym mhris nwy.

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Banc Lloegr: "Ers mis Mai, mae pris nwy wedi mwy na dyblu. Rydym yn meddwl y bydd y codiad pris yma yn gwthio chwyddiant hyd yn oed yn uwch dros yr ychydig fisoedd nesaf, i tua 13%.

"Mae prisiau uwch am y nwyddau rydyn ni'n eu prynu o dramor hefyd wedi chwarae rhan fawr."

Ychwanegodd y banc fod pwysau hefyd ar brisiau yn sgil datblygiadau yn y Deyrnas Unedig.

"Mae busnesau yn codi mwy am eu cynnyrch oherwydd y costau uwch y maent yn eu hwynebu. Mae mwy o swyddi gwag nag sydd o bobl i'w llenwi, gan fod llai o bobl yn chwilio am waith yn dilyn y pandemig.

"Mae hynny’n golygu bod cyflogwyr yn gorfod cynnig cyflogau uwch er mwyn denu ymgeiswyr am swyddi. Mae prisiau gwasanaethau wedi codi'n sylweddol. Mae’r wasgfa ar incwm aelwydydd oherwydd y cynnydd mewn prisiau ynni wedi arwain at dwf arafach yn economi’r DU. Disgwyliwn i faint economi’r DU ostwng dros y flwyddyn nesaf.

"Gwyddom fod gwasgfa costau byw yn anodd i lawer o bobl. Os bydd chwyddiant uchel yn para am amser hir byddai hynny'n gwaethygu pethau."

Ychwanegodd y banc y bydd yr hyn sydd yn digwydd i gyfraddau llog yn y misoedd nesaf "yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd yn yr economi."

'Heriau economaidd rhyngwladol'

Wrth ymateb i'r cynnydd, dywedodd y Canghellor, Nadhim Zahawi, bod Prydain fel sawl gwlad arall yn wynebu "heriau economaidd rhyngwladol ac y bydd hyn yn bryderus ar gyfer llawer o bobl" ac mai "wynebu'r argyfwng costau byw ydy'r brif flaenoriaeth."

Er hyn, ychwanegodd bod yr "economi wedi ymateb yn gryf o'r pandemig, gyda'r cynnydd cyflymaf yn y G7 y llynedd, a dwi'n hyderus y bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd rwan yn golygu y byddwn ni'n gallu goresgyn yr heriau rhynglwadol yma."

Dywedodd y Canghellor Cysgodol, Rachel Reeves o'r Blaid Lafur: "Mae hyn yn fwy o dystiolaeth bod y Ceidwadwyr wedi colli rheolaeth ar yr economi, gyda chwyddiant yn parhau i godi'n sylweddol, tra bod morgeisi a chyfraddau llog yn parhau i gynyddu.

"Wrth i deuluoedd a'r henoed boeni am sut maen nhw am dalu eu biliau, mae ymgeiswyr arweinydd y blaid Geidwadol yn teithio'r wlad yn cyhoeddi polisïau na fydd yn gweithio, sydd ddim yn helpu pobl trwy'r argyfwng hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.