Arlywydd Wcráin yn cyfarfod Syr Keir Starmer yn Downing Street
Mae Arlywydd Wcráin wedi cyrraedd Downing Street ar gyfer cyfarfod gyda Phrif Weinidog y DU ddydd Gwener.
Bydd Volodymyr Zelensky a Syr Keir Starmer yn cyfarfod ag arweinwyr Ewropeaidd eraill yn ddiweddarach i drafod y rhyfel yn Wcráin.
Daw ymweliad yr arlywydd yn dilyn cyfarfod yn gynharach ddydd Gwener gyda'r Brenin Charles yng Nghastell Windsor.
Ar ôl iddo ysgwyd llaw â'r Brenin Charles, fe gafodd Volodymyr Zelensky gyfarchiad brenhinol – ei groeso seremonïol cyntaf yn y DU.
Fe gafodd anthem genedlaethol Wcráin ei chwarae a gwahoddwyd Mr Zelensky i arolygu Bataliwn 1af Gwarchodlu'r Grenadier.
Wedi'i wisgo mewn du, fe wnaeth Mr Zelensky ddiolch i'r Uwchgapten Ben Tracey, a arweiniodd yr arolygiad fel capten y gwarchodlu anrhydeddu.
Yn dilyn hynny fe aeth Arweinydd Wcráin i mewn i'r castell i gael cyfarfod gyda'r Brenin Charles, wrth i aelodau'r cyhoedd wylio o gatiau'r cwadrangl.
Yn y cyfarfod brynhawn Gwener, mae disgwyl i Syr Keir drafod sut i gefnogi Wcráin.
Bydd yn ystyried mesurau sy'n cynnwys ymdrechion pellach i wanhau'r economi sy'n cefnogi ymdrech ryfel Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, trwy dynnu olew a nwy'r wlad oddi ar y farchnad fyd-eang, a cheisio dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio asedau wedi'u rhewi i ariannu amddiffynfeydd Wcráin.
Yna bydd Prif Weinidog Denmarc, Mette Frederiksen, Prif Weinidog yr Iseldiroedd, Dick Schoof ac Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, Mark Rutte, yn ymuno â'r ddau ar gyfer trafodaethau yn Llundain, gydag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, yn ymuno o bell.
Ar ôl i'r chwe arweinydd orffen eu trafodaethau, bydd Mr Zelensky yn cyfarfod â thua 20 o arweinwyr eraill.
I gloi bydd Syr Keir, Mr Zelensky ac Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, Mark Rutte, yn cynnal cynhadledd newyddion.
Y bwriad ydy rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau a chrynodeb o sut aeth y trafodaethau ddydd Gwener.