Undeb Rygbi Cymru i dorri nifer y rhanbarthau o bedwar i dri

24/10/2025
Pedwar clwb rygbi

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau eu cynlluniau i gwtogi nifer y rhanbarthau o bedwar i dri erbyn 2028.

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r Undeb wedi cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol rygbi yn y wlad - gyda disgwyl iddynt dorri ar y nifer o'r rhanbarthau proffesiynol.

Cyn cychwyn yr ymgynghoriad roedd pedwar o opsiynau wedi cael eu cyflwyno, sef parhau gyda phedwar rhanbarth ond gyda chyllid anghyfartal, tri chlwb gyda chyllid cyfartal, tri chlwb gyda chyllid anghyfartal neu dau glwb gyda chyllid cyfartal.

Mewn cynhadledd yn y Stadiwm Principality ddydd Gwener, daeth cadarnhad gan yr Undeb eu bod am dorri un rhanbarth fel rhan o'u cynlluniau hir dymor ar gyfer y gêm broffesiynol.

Mae'r undeb wedi cadarnhau y bydd un tîm wedi ei leoli yn ardal y Brifddinas, un yn Nwyrain Cymru a’r llall yn y Gorllewin. 

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad brynhawn Gwener, dywedodd Rygbi Caerdydd: "Mae Undeb Rygbi Cymru wedi amlinellu eu cynlluniau, ac rydym ni wedi cael sicrwydd y bydd un o'r tri o dimau yng Nghaerdydd.

"Rydym yn teimlo rhyddhad gan hyn. Fel clwb rydym yn hyderus yn ein sefyllfa a'r unig ffocws gennym ni yw sicrhau bod Rygbi Caerdydd yn aros ym Mharc yr Arfau fel Rygbi Caerdydd."

Fe ddywedodd y Dreigiau mewn datganiad brynhawn Gwener: "Rydym yn falch fod Undeb Rygbi Cymru wedi derbyn fod yn rhaid i rygbi elît aros yng Ngwent.

"Mae yna faterion sylweddol o hyd yr ydym yn annog Undeb Rygbi Cymru i'w hailystyried. Mae'n hanfodol bod clybiau'n cadw rheolaeth dros benderfyniadau rygbi; bydd hyn yn sicrhau model domestig cynaliadwy sy'n helpu i adeiladu tîm cenedlaethol llwyddiannus."

Ar hyn o bryd mae un tîm yn y dwyrain [Y Dreigiau] , Rygbi Caerdydd yn y brifddinas, a dau dîm yn y gorllewin [y Gweilch a'r Scarlets] ond nid oes unrhyw awgrym beth fydd dyfodol unrhyw un o'r rhanbarthau presennol yn unigol.

Image
Presser
Cynhadledd Undeb Rygbi Cymru: (O'r chwith i'r dde): Aelod Bwrdd Undeb Rygbi Cymru, Amanda Bennett,  Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît, Dave Reddin, Cadeirydd Richard Collier-Keywood ac Aelod Bwrdd, John Manders

Yn ystod y cyfnod ymgynghori mae'r Undeb yn dweud eu bod wedi siarad â chwaraewyr, cefnogwyr, hyfforddwyr a rhanddeiliaid y rhanbarthau am eu pryderon a'u barn am y gamp yng Nghymru.

Wrth siarad yn y gynhadledd, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood: “Rydym wedi clywed yn glir iawn trwy gydol y broses o ymgynghori a holi barn, bod cymuned rygbi Cymru eisiau ateb hirdymor ac nid ateb hawdd dros dro – ac rydym wedi gwrando ar y sylwadau hynny ac wedi cytuno gyda nhw.

“Ein penderfyniad yw y bydd tri thîm proffesiynol ar gyfer y dynion yn system fwy addas ar gyfer rygbi elît yng Nghymru – yn hytrach na’r model pedwar tîm sydd gennym ar hyn o bryd.

Rygbi menywod yn 'greiddiol'

Mae Mr Collier-Keywood wedi cadarnhau y bydd dau dîm proffesiynol ar gyfer y menywod yn rhan greiddiol o’r system newydd.

Fe aeth ymlaen i ddweud fod Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau’r bwriad i gynnig tri o drwyddedau ar gyfer timau elît dynion ar draws y wlad er mwyn "crynholi talent, gwella’r elfen gystadleuol a sicrhau cynaliadwyedd ariannol hefyd.

"Fe fydd un yn y Brifddinas, un yn Nwyrain Cymru a’r llall yn y Gorllewin. Bydd y tri thîm yn derbyn yr un cyllid cychwynnol o £6.4m fydd yn cynyddu i £7.8m yn flynyddol.

Ychwanegodd: “Mae unrhyw newid yn anodd. Rydym wedi’n hymrwymo’n gytundebol i’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar hyn o bryd a byddwn yn parchu hynny. 

"Rydym am drafod y ffordd ymlaen gyda rheolwyr y Bencampariaeth a’r clybiau a’u perchnogion. Er y gall dod i gytundeb gymryd ychydig o amser, byddwn yn gweithio’n galed i ddod â hyn i drefn mor fuan ag sy’n bosib.

“Os nad oes modd dod i gytundeb ar sut y bydd y newid hwn yn digwydd, bydd Undeb Rygbi Cymru wedyn yn cynnal proses dendro deg a thryloyw ar gyfer hawlio’r tair trwydded. 

"Rydym eisoes wedi cadarnhau y byddwn yn parchu holl gytundebau’r chwaraewyr presennol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.