Cwest Ian Watkins yn clywed ei fod wedi marw o anaf i'w wddf
Mae cwest wedi clywed fod y troseddwr rhyw a phrif leisydd y grŵp Lostprophets, Ian Watkins wedi marw o anaf gafodd ei achosi ar ôl iddo gael ei drywanu yn ei wddf.
Bu farw'r cyn-seren roc 48 oed yn dilyn ymosodiad honedig yng Ngharchar Wakefield, lle'r oedd yn cwblhau dedfryd o 29 mlynedd am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Cafodd cwest ei agor a'i ohirio i farwolaeth Watkins yn Llys Crwner Wakefield ddydd Gwener.
Dywedodd y Crwner, Oliver Longstaff fod Watkins wedi'i ddarganfod yn farw yn y carchar ar 11 Hydref gan feddyg oedd ar ddyletswydd, ac fe gafodd ei adnabod yn ffurfiol gan swyddog yn y carchar.
Dywedodd Mr Longstaff fod parafeddygon wedi'u galw i'r carchar "yn dilyn adroddiad ei fod wedi cael ei drywanu yn ei wddf".
Dywedodd y crwner fod adroddiad post-mortem wedi cofnodi achos ei farwolaeth fel toriad i'r gwddf.
Cyhuddiadau
Dywedodd fod carcharorion eraill wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth ac y byddai ymchwiliad y crwner yn cael ei ohirio “tra’n disgwyl canlyniad y broses o gyfiawnder troseddol”.
Ychwanegodd Mr Longstaff: “Mae'r cwestiwn os bydd angen ailddechrau cwest i’r farwolaeth ar ôl i’r broses droseddol honno ddod i ben yn destun dyfalu llwyr....”
Mae'r carcharorion Rashid Gedel, 25 oed, a Samuel Dodsworth, 43 oed, wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Watkins.
Yr wythnos hon dywedodd Heddlu Gorllewin Sir Efrog fod dau ddyn arall o'r carchar wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.
Cafodd y dynion 23 a 39 oed eu rhyddhau ar fechnïaeth a'u dychwelyd i'r carchar tra bod ymholiadau'n parhau.
Ymddangosodd Gedel a Dodsworth yn y llys yr wythnos diwethaf wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth ond ni ofynnwyd iddynt bledio ar y pryd.
Ymddangosodd Dodsworth trwy gyswllt fideo o Garchar Wakefield ond clywodd Llys y Goron Leeds fod Gedel wedi gwrthod mynychu dros gyswllt fideo gan ei fod am ymddangos yno yn bersonol.
Cafodd y cwest ei ohirio.