Chwilio am Esgob dros dro i Fangor er mwyn darparu 'sefydlogrwydd'
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi eu bwriad i ddod o hyd i 'Esgob dros dro' ar gyfer llenwi swydd Esgob newydd ym Mangor, a hynny er mwyn darparu "arweinyddiaeth a sefydlogrwydd."
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd yr Esgobaeth mai'r gobaith fydd denu Esgob profiadol "i gryfhau arweinyddiaeth, cyllid, llywodraethu a rheolaeth" yn y Gadeirlan.
Ar ôl cyfarfod cychwynnol o'r Coleg Etholiadol, penderfynwyd peidio â bwrw ymlaen â'r broses etholiadol am y tro a cheisio cymeradwyaeth Corff Llywodraethol yr Eglwys ar gyfer y cynllun newydd.
Y cynnig sydd wedi'i gymeradwyo gan Goleg Etholiadol Bangor, a chan Bwyllgor Sefydlog Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, yw'r cam diweddaraf o'r gwaith sy'n cael ei arwain gan Archesgob Cymru, y Parchedig Cherry Vann.
Mae'r Archesgob yn ceisio mynd i'r afael â'r hyn a ddisgrifiodd yn ei llythyr at aelodau'r Corff Llywodraethol fel "heriau ariannol a sefydliadol anodd."
Yn y llythyr hwnnw, wrth amlinellu'r newidiadau, ychwanegodd: "Mae esgobaeth Bangor angen teulu cyfan yr Eglwys yng Nghymru i'w chefnogi wrth iddi lywio cyfnod o newid."
'Heriau dwfn'
Mae Archesgob Cymru wedi siarad yn ddiweddar am yr heriau "cymhleth, dwfn a hirhoedlog" sydd yn bodoli yn Esgobaeth Bangor.
Anerchodd yr Archesgob Cherry Vann, Gynhadledd Esgobaeth Bangor ganol y mis, gan gydnabod yr heriau cymhleth sy'n wynebu'r Esgobaeth yno.
Daw ei sylwadau wedi cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan a'r Esgobaeth, gydag adroddiadau o gamymddwyn arweiniodd at ymddeoliad sydyn Esgob Bangor ac Archesgob Cymru, Andy John, ddiwedd mis Mehefin.
Does dim awgrym bod y cyn-Archesgob ei hun wedi camymddwyn.
Mae côr y Gadeirlan hefyd wedi eu gwahardd am gyfnod wedi iddyn nhw ganu cân o brotest a gadael gwasanaeth yn gynnar ddiwedd mis Awst.
Un i ddwy flynedd
O dan y drefn newydd, y gobaith yw gwahodd esgob profiadol i ddod i Fangor am gyfnod o un i ddwy flynedd.
Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i'r Corff Llywodraethu gymeradwyo cynnig sy'n gwneud rhai newidiadau i'r Cyfansoddiad i ganiatáu’r penodiad dros-dro.
Bydd y cynigion hyn yn cael eu trafod mewn cyfarfod arbennig o'r Corff Llywodraethol yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Mawrth 25 Tachwedd.