Galw ar gymunedau cefn gwlad i 'warchod' pobl ifanc rhag cyffuriau
Galw ar gymunedau cefn gwlad i 'warchod' pobl ifanc rhag cyffuriau
Mae ‘na alw ar gymunedau cefn gwlad i “warchod” pobl ifanc rhag peryglon cyffuriau.
Mae ymdrechion yn Nyffryn Ogwen i greu caffi ieuenctid er mwyn cael plant oddi ar y stryd wrth i drigolion lleol bryderu bod rhai’n dod i niwed.
Mae gwirfoddolwyr ym Methesda yn honni bod polisi ieuenctid Cyngor Gwynedd yn golygu bod rhai pobl ifanc yn “disgyn trwy’r rhwyd”.
Dywed Cyngor Gwynedd eu bod nhw wedi cydnabod mai’r brif flaenoriaeth yn ardal Bethesda oedd “cynlluniau i ddarparu mwy o gyfleusterau ar gyfer pobl ifanc,” a hynny yn dilyn ymgynghoriad sirol yn 2024.
“O’r herwydd, mae Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn cydweithio gyda Chyngor Cymuned Bethesda er mwyn cynnal Clwb Ieuenctid yn y pentref dair noson yr wythnos,” medd llefarydd.
Dywedodd bod y gwasanaeth yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc 11-25 oed i "gymdeithasu, i ymlacio ac i ddatblygu sgiliau personol ac addysgol".
'Pryder'
Mae Susan Roberts yn un o griw bychan sy’n ceisio sefydlu caffi ieuenctid ym Methesda.
Mae’n dweud bod y dref “wedi mynd i lawr” a bod “lot o gyffuriau yma”.
“Mae ‘na lot o godi twrw yma a ‘nunlla i’r bobl ifanc ‘ma fynd. A tydyn nhw ddim yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o’r gymuned.”
Mae’n dweud bod y pryder lleol wedi cynyddu’n fawr yn y misoedd diwethaf.
“Mae’n gyfrifoldeb ar gymuned i stopio pethau fel hyn. Mae rhaid i ni stopio’r cyflenwyr cyffuriau ‘ma fynd i mewn at ein plant ni a troi eu pennau nhw.
“Mae rhaid i ni drio ‘neud rwbath achos mae’r bywydau ‘ma mor bwysig i ni. Does dim un ohonom ni isio gweld ein plant yn mynd i drafferth, ond os na wnawn ni stopio nhw a bod yn gyfrifol amdanyn nhw, mae’n mynd i gario ‘mlaen.”
“Mae nhw fwy at risk allan ar y stryd ar eu pen eu hunain nag efo pobl yn gwylio nhw. Dwi’n meddwl bod nhw isio teimlo’n saff.”
Y bwriad ydy agor caffi ieuenctid lle gall plant rhwng 10 ac 17 oed ymlacio a sgwrsio o dan ofal gwirfoddolwyr.
Mi gafodd clybiau ieuenctid traddodiadol eu cau gan Gyngor Gwynedd saith mlynedd yn ôl, gyda gwasanaeth newydd a gwahanol yn cael ei sefydlu.
Mae ‘na glybiau chwaraeon a chelfyddydol hefyd yn lleol. Ychwanegu at hynny ydy bwriad y caffi.
“O’n i’n rhedeg youth club am flwyddyn a doeddan nhw ddim isio gneud be’ oedd gofynion Cyngor Gwynedd, g’neud crefftau neu dysgu rwbath achos bod youth clubs i gyd o dan education rwan.”
“Dim pawb sydd isio ‘neud o. A mae ‘na rai yn disgyn trwy’r rhwyd yn fa’ma, pobl ifanc sydd jyst isio i rywun fod yna iddyn nhw.”
'Poeni adman ein pobl ifanc'
Mae’r Parchedig Sara Roberts yn un arall o’r gwirfoddolwyr.
“Dan ni’n gweld yr angen, ‘dan ni wedi gweld ychydig o drafferth ar y stryd. ‘Dan ni’n poeni amdan ein pobl ifanc a ‘dan ni’n isio gwneud rhywbeth iddyn nhw.”
“Dydy o ddim yn rwbeth newydd. Mae lot o bobl wedi bod yn poeni am y sefyllfa a mae jyst yn cymryd un person i ddeud, ‘Reit, be am i ni wneud rywbeth amdano fo.’”
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Rydym yn croesawu cynlluniau cymunedol i sefydlu Caffi Ieuenctid ac yn dymuno pob llwyddiant i’r fenter.
"Rydym yn agored ac yn awyddus i gydweithio â’r gwirfoddolwyr sy’n rhan o’r caffi newydd, yn yr un modd y mae’r Gwasanaeth Ieuenctid eisoes yn gweithio’n agos gyda nifer o grwpiau a mentrau gwirfoddol eraill ledled Gwynedd, er mwyn cryfhau’r ddarpariaeth a chynnig rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc.”
Y gobaith ydy cael lleoliad i agor y caffi ieuenctid ym Methesda erbyn y Nadolig.