Sir Gâr: Gyrrwr fan wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad 'difrifol' gyda bws
Mae gyrrwr fan wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad 'difrifol' gyda bws ar ffordd yr A40 yn Sir Gâr ddydd Gwener.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad ar yr A40 rhwng bws a fan, rhwng Llandeilo a Nantgaredig, am 16.25 brynhawn Gwener.
Bu farw gyrrwr y fan yn y fan a'r lle. Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Roedd yna un teithiwr 14 oed ar y bws yn ogystal â'r gyrrwr, ac fe gafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Glangwili gyda mân anafiadau.
Ychwanegodd yr heddlu fod y ffordd bellach wedi ail-agor.
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20260703-277.
