Tsieina yn cychwyn ymarferion milwrol o gwmpas Taiwan

Mae Tsieina wedi cychwyn ymarferion milwrol o gwmpas Taiwan wrth i densiynau barhau i gynyddu yn sgil ymweliad llefarydd Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau, Nancy Pelosi, i'r ynys.
Mae gwasg y wladwriaeth yn Tsieina yn adrodd bod driliau milwrol wedi cychwyn ychydig oriau ar ôl i dronau hedfan uwch ben tiriogaeth Taiwan ddydd Mercher.
Dywedodd un o uwch swyddogion y weinyddiaeth bod y datblygiad yn "gyfystyr â gwarchae môr ac awyr yn Nhaiwan”.
Daw hyn wrth i Ysgrifennydd Tramor Tsieina ddisgrifio ymweliad Ms Pelosi â'r ynys fel un "manig, anghyfrifol ac afresymol."
Darllenwch ragor yma.
Llun: Alan Wu