Tad a mab o Gaerdydd 'wedi cael eu gwenwyno gan nwy' yn Bangladesh

Fe gafodd tad a mab o Gaerdydd fu farw yn Bangladesh eu gwenwyno gan nwy, yn ôl yr heddlu.
Bu farw Rafiqul Islam, 51, a Mahiqul Islam, 16, ar ôl cael eu darganfod yn anymwybodol yn ninas Sylhet fis diwethaf.
Roedd tri aelod arall o'r teulu, gan gynnwys gwraig Mr Islam, Husnara, a'u plant eraill, Samira a Sadiqul, yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.
Fe gafodd Husnara a Sadiqul eu rhyddhau o'r ysbyty ddydd Mercher, ond mae Samira yn parhau yno mewn cyflwr 'pryderus' yn yr uned gofal dwys.
Y gred yw bod generadur trydan diffygiol wedi cael ei ddefnyddio yn yr eiddo lle yr oedden nhw'n aros yn sgil toriad trydan ar noson y drychineb.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wikimedia Commons