Truss a Sunak i wynebu ei gilydd mewn dadl yng Nghaerdydd nos Fercher

Fe fydd y ddau ymgeisydd sydd ar ôl yn y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn cymryd rhan mewn dadl gyhoeddus yng Nghaerdydd nos Fercher.
Fe fydd yr hystings rhwng Rishi Sunak a Liz Truss yn dechrau am 19:00, gyda'r ddau yn wynebu cwestiynau gan aelodau eu plaid yng Nghymru.
Y ceffyl blaen yn y ras ar hyn o bryd yw Liz Truss. Roedd ganddi 60% o gefnogaeth o gymharu gyda 26% i Rishi Sunak mewn arolwg barn diweddar.
Ond bu'n rhaid iddi wneud tro pedol yn gynharach yr wythnos hon ar ôl awgrymu y byddai'n cwtogi cyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus tu allan i Lundain.
Cafodd ei datganiad ei feirniadu'n hallt, ac fe roddodd ei thîm fai ar y cyfyngau am gamddehongli ei sylwadau.
Darllenwch ragor yma.