Karen Carney yn ennill Strictly Come Dancing
Mae'r cyn bêl-droediwr Karen Carney wedi ennill Strictly Come Dancing.
Carney yw'r pêl-droediwr cyntaf i ennill y gystadleuaeth.
Fe enillodd rownd derfynol y gystadleuaeth nos Sadwrn wedi'r bleidlais gyhoeddus, gyda'r Gymraes Amber Davies a'r seren cyfryngau cymdeithasol George Clarke, hefyd yn cystadlu.
Fe ddywedodd Carney, a oedd yn dawnsio gyda Carlos Gu: "Dwi methu coelio'r peth, dyma ydy braint ac anrhydedd fwyaf fy mywyd.
"Dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi cefnogi ein taith ni a'n cefnogi ni."
Ychwanegodd Gu fod Carney wedi "newid ei fywyd" gan ychwanegu "i'r merched a'r bechgyn sy'n gwylio gartref, breuddwydiwch yn fawr a byddwch yn falch, a pheidiwch fyth â rhoi'r ffidil yn y to."
Dyma oedd cyfres olaf y cyflwynwyr, sef Claudia Winkleman a Tess Daly, a gyhoeddodd yn gynharach eleni na fyddan nhw'n dychwelyd y flwyddyn nesaf i gyflwyno'r rhaglen.
Mae Daly wedi cyflwyno Strictly ers y gyfres gyntaf 21 mlynedd yn ôl, ac fe ymunodd Winkleman yn 2014 wedi iddi gyflwyno'r rhaglen It Takes Two ers 2004.
