Newyddion S4C

Cyngor Caerdydd 'ddim am barhau â chais i gynnal Eurovision'

03/08/2022
Stadiwm Principality

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau na fyddan nhw'n parhau â chais i gynnal Eurovision yn y ddinas.

Dywed Cyngor Dinas Caerdydd y byddai cynnal digwyddiad o'r fath yn golygu "canslo nifer sylweddol o ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu".

Fe fydd y DU yn cynnal y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf ar ôl iddyn nhw orffen yn ail i Wcráin ym mis Mai.

Ni fydd Eurovision yn cael ei chynnal yn Wcráin yn sgil ymosodiad Rwsia ar y wlad a'r rhyfel sy'n parhau yno.

Roedd nifer o ddinasoedd wedi cynnig eu henwau, gan gynnwys Caerdydd.

Mewn datganiad ar y cyd rhwng Cyngor Dinas Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Stadiwm Principality ddydd Mercher, dywedodd yr asiantaethau y byddai Caerdydd wedi "gweddu'n naturiol ar gyfer cynhyrchiad mor sylweddol".

Yn y datganiad, fe ddywedodd y Cyngor a'r Llywodraeth y byddai gan Gaerdydd "ddadl gref" dros gynnal y digwyddiad.

Er i'r trafodaethau barhau am unrhyw opsiynau posibl a allai fod wedi gallu cynnal y digwyddiad, nid oes "ateb ymarferol".

Mae Cyngor Dinas Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Stadiwm Principality wedi cytuno ar y cyd â'r BBC na fydd hi'n bosib i Gaerdydd barhau â'r cais.

Mae disgwyl i leoliad Eurovision y flwyddyn nesaf gael ei gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.