'Cyffrous tu hwnt' i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd mewn camp e-chwaraeon newydd
'Cyffrous tu hwnt' i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd mewn camp e-chwaraeon newydd
Mae un o aelodau tîm Cymru fydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd HADO yn Tsieina ar ddiwedd y mis yn dweud ei fod yn "gyffrous tu hwnt" i gynrychioli ei wlad.
Bydd Rhys Richardson, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn un o chwe Chymro fydd yn cystadlu yn Shanghai ar 24 Mai.
Yn debyg iawn i gêm Street Fighter, mae HADO yn gêm realiti estynedig (AR) lle mae dau dîm o dri yn wynebu ei gilydd a saethu peli ar dargedau'r gwrthwynebwyr.
Mae modd newid maint a chyflymder y peli ac mae tariannau ar gael i flocio yn ogystal. Mae gan bob chwaraewr bedwar targed i'w daro.
80 eiliad yw hyd y gêm ac mae modd ennill un pwynt bob tro mae'r pedwar targed ar un chwaraewr wedi eu dinistrio.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1840307150725288445
Wrth siarad â Newyddion S4C cyn hedfan i Shanghai, dywedodd Rhys y byddai'n "hyfryd derbyn crys Cymru" gyda'i enw arni.
“Fi’n gyffrous tu hwnt, ma fe’n gampus i gynrychioli eich gwlad, yn enwedig pan chi yr ochr anghywir i 40 mewn camp corfforol," meddai.
“Ma' fe’n hyfryd gallu derbyn crys Cymru gyda fy enw, a bydd hwnna’n neis i fframio ar ôl Cwpan y Byd."
“Siŵr o fod bydd hwn yn un o’r pethau gorau byddai wedi gwneud.
"Petai chi’n gofyn i fi pan o’n i’n ifanc os y byddwn i’n cynrychioli Cymru mewn camp corfforol bydden i byth wedi credu chi."
'Gwaith caled'
Yn wahanol i wledydd eraill, nid oes cyrtiau HADO yng Nghymru felly mae angen i'r tîm deithio i Loegr er mwyn ymarfer.
Mae cyrtiau yn Coventry, Newcastle a Brighton gan olygu bod y chwaraewyr yn gorfod teithio dros ddwy awr a hanner er mwyn cyrraedd y cwrt agosaf.
Er gwaethaf hynny, mae Rhys Richardson wedi mwynhau'r broses o ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth fawr.
“Ni ‘di joio’r holl broses o chwarae yn yr Euros mis Medi diwethaf, a nawr wedi bod mewn camp ers mis Mawrth yn ymarfer yn Coventry, a gwneud saith awr o ymarfer pob diwrnod," meddai.
“Ma' fe’n cymryd e allan o chi yn gorfforol a meddyliol ond mae’r broses yn wedi bod yn un ni wedi mwynhau hefyd.
“Ni wedi gwneud gwaith ar y cwrt ac oddi ar y cwrt, gwylio fideos ar ein gwrthwynebwyr a gwaith tactegol o ran cyfathrebu ar y cwrt."
Inline Tweet: https://twitter.com/EsportsWales/status/1911792879858569288
18 gwlad sydd yn cystadlu eleni ac maen nhw wedi eu rhannu i ddau grŵp o naw.
Bydd y gwledydd sydd yn gorffen yn y pedwar safle uchaf yn sicrhau eu lle yn y rowndiau nesaf.
Sbaen, Yr Unol Daleithiau, Lloegr, Groeg, Malaysia, De Corea, Awstralia a Cyprus fydd yng ngrŵp Cymru.
Gobaith Rhys Richardson yw y gallai Cymru orffen yn y pedwar uchaf a chyrraedd rownd yr wyth olaf.
“Rydym ni’n gobeithio dod allan o’r grwpiau, bydd herio rhai o’r timoedd yn anodd.
"Ond ein nod yw curo Groeg, sef ein prif gystadleuaeth er mwyn gallu dod allan o’r grwpiau."
'Agor drysau'
Wrth i gamp HADO dyfu yng Nghymru mae Rhys yn hyderus y byddai modd adeiladu cwrt parhaol yn y wlad.
Bydd cystadlu yng Nghwpan y Byd yn codi proffil y gamp hyd yn oed yn fwy, a gyda hynny ennyn diddordeb mwy o bobl ifanc.
"Ma' gemau newydd fel yn agor drysau a ni eisiau agor drysau i’r genhedlaeth nesaf.
"Beth ni eisiau gwneud yw cael HADO yng Nghaerffili, yma yng Nghymru.
"Ma' fe'n gamp anhygoel i ddweud y gwir gan bod chi'n cyfuno'r ochr cyfrifiadurol, lle fi 'di arfer chwarae gemau ar y cyfrifiadur neu ar y console.
"Dwi 'di neud 44,000 o steps yn chwarae HADO, felly mae'n gorfforol iawn ac yn dda i'ch iechyd."
Bydd Cymru yn cystadlu yn y categorïau 3 yn erbyn 3 a 2 yn erbyn 2 a bydd y cyfan yn cychwyn am 05:00 ar 24 Mai ar sianel YouTube HADO.