‘Pryder cynyddol’ am fachgen 16 oed bregus sydd ar goll yn Sir Conwy
‘Pryder cynyddol’ am fachgen 16 oed bregus sydd ar goll yn Sir Conwy
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud fod ganddyn nhw “bryder cynyddol” am fachgen 16 oed bregus sydd wedi mynd ar goll yn ardal Llandudno, Sir Conwy.
Mae’r llu a gwylwyr y glannau wedi bod yn chwilio am Athrun "ar y tir, y dŵr ac o'r awyr" wedi iddo gael ei weld ddiwethaf am 14:00 ddydd Sadwrn ar draeth gorllewin Llandudno mewn siorts nofio a heb dop na'i esgidiau.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw am i'r cyhoedd gadw llygad amdano ond i beidio â chwilio mewn mannau peryglus a fydd eisoes wedi'u gwirio gan weithwyr proffesiynol.
Wrth ddiolch i'r cyhoedd am eu cymorth dywedodd y llu: “Mae gennym bryder cynyddol am Athrun gan ei fod yn berson bregus.
“Mae'n 6 troedfedd, gwallt brown, ac mae ganddo lygaid glas. Roedd yn gwisgo siorts nofio patrymog glas a gwyn yn unig, a dim esgidiau. Nid yw'n gwisgo clustffonau fel y gwelir yn y llun.”
Mae’r llu wedi annog pobl sy’n byw yn y cyffiniau i wirio eu gerddi, siediau a thai allan.
Ychwanegodd yr Arolygydd Rachel Hare: ''Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am rhoi gwybodaeth i ni am ei weld hyd yn hyn, mae'r rhain wedi'u gwirio a'u negyddu.'
“Ffoniwch ni ar 101 neu gwe-sgwrs os gwelwch yn dda os gwelwch yn dda, cyfeirnod C067064.”
Mewn diweddariad pellach ddydd Sul fe ddywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Simon Kneale eu bod nhw am i unrhyw un sydd â lluniau camera dashfwrdd yng nghyffiniau Glan y Gorllewin rhwng 12.00 ac 18.00 eu gwirio am Athrun.
"Hefyd, os gwnaethoch chi dynnu unrhyw luniau yn ardal Glan y Gorllewin yn Llandudno ddoe, a allwch chi roi gwybod i ni," meddai.
Llun: Heddlu Gogledd Cymru