Newyddion S4C

Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2025

Y rhestr fer

Mae'r 12 llyfr sydd ar restr fer Cymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni wedi eu cyhoeddi.

Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc - gydag un o’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr a hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. 

Noddir y Brif Wobr Gymraeg eleni gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a’r Brif Wobr Saesneg gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.

Bydd yr enillwyr Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo a gaiff ei chynnal yn Theatr y Sherman, Caerdydd ar nos Iau 17 Gorffennaf. 

Bydd 12 gwobr a chyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr awduron llwyddiannus, £1,000 yr un i’r enillwyr categori a £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith. 

Bydd yr enillwyr yn derbyn tlysau eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi eu dylunio yn arbennig gan yr artist a’r gof talentog, Angharad Pearce Jones. 

Yn ystod y seremoni, bydd Llenyddiaeth Cymru hefyd yn cyhoeddi pa deitlau sydd wedi mynd â bryd y cyhoedd, a chyrraedd brig pleidleisiau Barn y Bobl a’r People’s Choice. 

Noddir Gwobr Barn y Bobl gan Golwg360 a’r People’s Choice Award gan Nation Cymru ac mae modd pleidleisio ar eu gwefannau.

Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Dyma un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi – derbyn rhestrau darllen o’r llyfrau gorau un sydd wedi eu cyhoeddi yn y flwyddyn flaenorol gan banel arbenigol. Diolch o galon i’r beirniaid am eu gwaith darllen diwyd. 

"Llongyfarchiadau mawr i awduron y rhestrau byrion – gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn ysgogiad pellach i ddarllenwyr heidio i’w siop lyfrau neu eu llyfrgell leol. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weld pwy fydd yn fuddugol yn ein Seremoni fawreddog yng Nghaerdydd fis Gorffennaf.”

Y rhestr yn llawn

Ffuglen

Nelan a Bo, Angharad Price (Y Lolfa)

Madws, Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn)

V + Fo, Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn) 

Barddoniaeth

  • Rhuo ei distawrwydd hi, Meleri Davies (Cyhoeddiadau’r Stamp)
  • Pethau sy’n Digwydd , Siôn Tomos Owen (Barddas)
  • O’r Rhuddin, Sioned Erin Hughes (Y Lolfa) 

Ffeithiol Greadigol

  • Oedolyn (ish!), Melanie Owen (Y Lolfa)
  • Camu, Iola Ynyr (Y Lolfa)
  • Casglu Llwch, Georgia Ruth (Y Lolfa) 

Plant a Phobl Ifanc

  • Cymry. Balch. Ifanc., Golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter (Rily Publications)
  • Arwana Swtan a’r Sgodyn Od, Angie Roberts a Dyfan Roberts (Gwasg y Bwthyn)
  • Rhedyn, Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Menna Elfynm Gwenllian Ellis; Miriam Elin Jones a Hammad Rind.

Dywedodd Gwenllian Ellis: “ Mae hi wir yn gyffrous cael dathlu’r lleisiau amrywiol yn ein llenyddiaeth, rhai newydd sbon a rhai rydym eisoes yn gyfarwydd â nhw. 

“Fel cyn-enillydd Gwobr Barn y Bobl, gwn yn union faint mae’r wobr hon yn ei olygu—nid yn unig fel cydnabyddiaeth, ond fel cyfle i ddathlu awduron a’u gwaith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.