Zelensky yn barod i gwrdd â Putin wyneb yn wyneb
Mae Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky wedi dweud ei fod yn barod i gyfarfod ag Arlywydd Rwsia Vladimir Putin wyneb yn wyneb.
Dywedodd y byddai yn cwrdd â Vladimir Putin "yn bersonol" yn Istanbul ddydd Iau ar gyfer trafodaethau ynghylch dod â'r rhyfel i ben.
"Does dim pwynt parhau i ladd heb angen,” meddai. “Fe fyddaf yno yn aros am Putin yn Nhwrci ddydd Iau. Yn bersonol.”
Daw wedi i Vladimir Putin wahodd Wcráin i gymryd rhan mewn “trafodaethau uniongyrchol” ddydd Iau.
Dywed Vladimir Putin ei fod “wedi ymrwymo i drafodaethau difrifol” ac nad yw’n diystyru cytuno i gadoediad yn ystod trafodaethau uniongyrchol gyda’r Wcráin.
Ond nid yw wedi ymateb i’r cynnig o cadoediad 30 diwrnod gan y DU a gwledydd eraill yn Ewrop.
Mewn anerchiad teledu yn hwyr nos Sadwrn dywedodd Mr Putin fod Rwsia yn ceisio cynnal “trafodaethau difrifol” gyda’r nod o “symud tuag at heddwch parhaol, cryf”.
Inline Tweet: https://twitter.com/ZelenskyyUa/status/1921611690891940116
Yn gynharach ddydd Sadwrn, roedd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi teithio i Kyiv gydag arweinwyr Ffrainc, yr Almaen a Gwlad Pwyl i roi pwysau ar Rwsia i ymrwymo i gadoediad diamod, gan ddechrau ddydd Llun.
Yn ei ddatganiad, dywedodd Mr Putin na allai “ddiystyru” y posibilrwydd y gallai’r trafodaethau arwain at Rwsia a’r Wcráin yn cytuno ar “gadoediad newydd”. Ond ni roddodd sylw uniongyrchol i alwadau am gadoediad 30 diwrnod.
Dywedodd arweinydd Rwsia y dylai’r trafodaethau arfaethedig gael eu cynnal yn ninas Twrci, Istanbul, fel ag o’r blaen, ac y byddai’n siarad ag Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, ddydd Sul i drafod y manylion.
Ychwanegodd Mr Putin ddydd Sul y byddai'n cefnogi trafodaethau heddwch: "Rydym wedi ymrwymo i drafodaethau difrifol gyda'r Wcráin.
"Eu pwrpas yw dileu achosion sylfaenol y gwrthdaro, i sefydlu heddwch hirdymor, parhaol.
"Nid ydym yn diystyru y bydd yn bosibl yn ystod y trafodaethau hyn i gytuno ar rai cadoediad newydd, cadoediad newydd."
Mewn ymateb, dywedodd Arlywydd Zelensky fore dydd Sul: “Mae'n arwydd cadarnhaol bod y Rwsiaid o'r diwedd wedi dechrau ystyried dod â'r rhyfel i ben. Mae'r byd i gyd wedi bod yn aros am hyn ers amser maith. A'r cam cyntaf oll i ddod ag unrhyw ryfel i ben yw cadoediad.
“Nid oes diben parhau â'r lladd hyd yn oed am un diwrnod. Disgwyliwn i Rwsia gadarnhau cadoediad - llawn, parhaol, a dibynadwy - gan ddechrau yfory, Mai 12fed, ac mae'r Wcráin yn barod i gwrdd.”
Llun: Reuters